Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Times Higher Education 2017

11 Ebrill 2017

THELMA 2017

Mae Prifysgol Caerdydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Arweinyddiaeth a Rheolaeth Times Hughes Education (THELMA), sef gwobr fawr ei bri.

Mae wedi ei henwebu yng nghategori 'Menter Cyfnewid/Trosglwyddo Gwybodaeth y Flwyddyn,' sy'n cydnabod y fenter fwyaf arloesol a gwreiddiol ym maes cyfnewid/trosglwyddo gwybodaeth yn ystod blwyddyn academaidd 2015-16.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddatblygu System Arloesedd, sy'n gyrru cynhyrchiant a ffyniant drwy fuddsoddi mewn pobl, lleoedd a phartneriaethau.

Mae'n cynnwys cyflogi academyddion rhyngwladol talentog, buddsoddi mewn cyfleusterau modern ar gyfer cydweithio â diwydiannau, datblygu graddau sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant a sefydlu mentrau ffurfiol ar y cyd â phartneriaid allanol.

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu: "Rwy'n falch iawn bod y Brifysgol ar y rhestr fer ar gyfer THELMA.

"Rydym eisiau i fanteision ein gwaith ymchwil gael eu rhannu mor eang ag sy'n bosibl..."

"Anaml iawn y ceir datblygiadau allweddol oni bai bod pobl yn cydweithio, felly mae angen System Arloesedd arnom i gysylltu'r arbenigedd angenrheidiol."

Yr Athro Hywel Thomas Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu

"Mae'r enwebiad yn dyst i waith caled ein staff a'n myfyrwyr talentog sy'n troi syniadau gwych yn ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid yn y sector preifat, cyhoeddus ac yn y trydydd sector."

Cyhoeddir yr enillydd mewn seremoni ar 22 Mehefin 2017 yng Ngwesty Grosvenor House, Park Lane, Llundain.

Dysgwch fwy am arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.