Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu Llwyddiant Cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus ym Maes Iechyd

6 Ebrill 2017

Public Lecture

Cafwyd diweddglo cofiadwy i'r Gyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus eleni, gyda darlith ar 30 Mawrth 2017 gan yr Athro Adam Balen o Ganolfan Meddygaeth Atgenhedlu Leeds.

Testun ei ddarlith oedd "Datblygiad Meddygaeth Atgenhedlu: pa mor bell ydym wedi dod o ran trin anffrwythlondeb, a pha mor bell y dylwn fynd?"  Daeth mwy na 100 o bobl i'r ddarlith, a gynhaliwyd ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys disgyblion chweched dosbarth ac aelodau o'r cyhoedd.

Tynnodd ei ddarlith sylw at y camau enfawr ymlaen a wnaed o ran trin anffrwythlondeb, gan drafod hefyd y broblem gynyddol o unigolion sy'n wynebu problemau ffrwythlondeb yn eu tridegau canol neu hwyr. Gofynnodd hefyd i ba raddau y dylid manteisio ar y technolegau hyn i greu "babanod delfrydol".

Nododd fod rhieni bellach yn cael dewis rhyw eu baban er mwyn sicrhau nad yw'n etifeddu cyflwr sy'n gysylltiedig â'i ryw, ond nid oherwydd rhesymau cymdeithasol. Fodd bynnag, nid yw'r rheoliadau mor llym mewn mannau eraill, felly o ganlyniad i hyn gwelwyd "twristiaeth ffrwythlondeb" o'r DU i UDA a rhai gwledydd yn Ewrop. Roedd y testun yn ysgogi'r meddwl a chafwyd nifer o gwestiynau yn ei gylch gan y gynulleidfa.

Roedd y sylwadau a gafwyd am y gyfres hon o ddarlithoedd yn cynnwys –

"menter hynod ddiddorol sy'n ennyn diddordeb y cyhoedd, ynghyd â myfyrwyr, mewn materion pwysig dros ben"

"roedd yn berthnasol i'r maes llafur Safon Uwch.  Braf clywed arbenigwr yn esbonio ac yn ateb cwestiynau – clir iawn"

"Diddorol a defnyddiol am ei fod yn gwneud i mi feddwl am beth sy'n fy ysgogi i astudio meddygaeth"

"Hoffwn i ddod i fwy o ddarlithoedd am unrhyw bwnc, am ei fod wedi gwneud i mi sylweddoli faint o arbenigeddau sy'n bodoli ym maes meddygaeth, ac ymchwil hefyd. Mae wedi fy ysgogi i astudio meddygaeth hyd yn oed yn fwy nag o'r blaen"

"mae'n sbarduno trafodaethau ymhlith unigolion yn y gymdeithas ynglŷn â gofal iechyd ac yn hybu dysgu gydol oes"

Dywedodd Dr James Matthews, sy’n cydlynu’r gyfres o ddarlithoedd, bod y gyfres hon wedi bod yn arbennig o dda - gyda chymysgedd o siaradwyr mewnol o Brifysgol Caerdydd gan gynnwys yr Athro Duncan Baird, Dr Matt Morgan a Dr Simone Cuff a siaradwyr allanol, megis yr Athro Adam Balen a Dr Tom Fowler, o Genomics England.

Byddwn yn chwilio am siaradwyr ar gyfer cyfres 2017-18, felly os hoffech draddodi darlith gyhoeddus, neu os oes gennych awgrymiadau o ran siaradwyr ar bynciau cyfoes mewn gwyddoniaeth a meddygaeth, hoffem glywed gennych. Cysylltwch â thîm Ymgysylltu’r Ysgol Meddygaeth:

Tîm Ymgysylltu Meddygol

Am ragor o wybodaeth ac i weld recordiadau byw’r gyfres hon o ddarlithoedd, ewch i dudalennau gwe Dealltwriaeth y Cyhoedd o Wyddoniaeth ym Maes Iechyd.

Rhannu’r stori hon