Ewch i’r prif gynnwys

TEDxCaerdydd

5 Ebrill 2017

TEDxCardiff Logo

Ar ol torri'r record am nifer y tocynnau a werthwyd, a llu o siaradwyr ysbrydoledig, mae TEDxCaerdydd 2017 unwaith eto yn argoeli i fod yn ddigwyddiad llawn syniadau sydd gwerth eu rhannu.

Mae'n bleser gan Brifysgol Caerdydd noddi'r digwyddiad unwaith eto. Fe'i cynhelir yng Tramshed (dydd Sadwrn 22 Ebrill), ac mae pob tocyn wedi'i werthu.

Digwyddiad nid-er-elw yw TED a'i nod yw rhannu syniadau. Gan amlaf, gwneir hyn ar ffurf trafodaethau byr a phwerus. Dechreuodd TED ym 1984 fel cynhadledd oedd yn dod â thechnoleg, adloniant a dylunio ynghyd. Erbyn hyn, mae'n trin a thrafod bron pob pwnc o dan haul - gan gynnwys gwyddoniaeth, busnes a materion byd-eang — mewn dros 100 o ieithoedd. Mae digwyddiadau TEDx annibynnol, fel TEDxCaerdydd, yn helpu i rannu syniadau mewn cymunedau ar draws y byd.

Caiff y digwyddiad ei ffrydio'n fyw ar wefan TEDxCaerdydd. Felly, os nad oedd modd i chi gael tocyn, gallwch dal wrando ar yr holl sgyrsiau, gan gynnwys rhai gan ymchwilwyr blaenllaw.

Mary Heimann

Mae'r Athro Mary Heimann, Cadeirydd Hanes Modern yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yn arweinydd blaenllaw ar hanes Tsiecoslofacia, gwlad a sefydlwyd fel gwladwriaeth ddemocrataidd, ryddfrydol a rhyngwladol. Er hyn, methodd y wlad o dan reolaeth siofiniaeth ethnig, unbennaeth, Ffasgaidd a Chomiwnyddol.

Pete Burnap

Mae Dr Pete Burnap yn Uwch-ddarlithydd (Athro Cyswllt) yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ac yn gyfarwyddwr yn y Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol. Mae'n gyfrifiadurwr cymhwysol sy'n canolbwyntio ar ddata a dulliau cyfrifiadurol o wella dealltwriaeth, gweithrediadau a gwneud penderfyniadau y tu allan i'r byd academaidd. Yn ogystal â hyn, mae'n cyfrannu at feysydd academaidd Cyfrifiadura Cymdeithasol, Gwyddoniaeth y We a Diogelwch y We.

Professor René Lindstädt

Mae'r Athro René Lindstädt yn Bennaeth ar Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Mae ei ymchwil, sydd wedi ei gyhoeddi mewn cyfnodolion gwyddonol gwleidyddol, y gyfraith a rhyngddisgyblaethol blaenllaw, yn canolbwyntio ar gwestiynau atebolrwydd gwleidyddol. Mae hefyd yn ceisio deall sut y mae pobl sy'n pleidleisio, y cyfryngau a swyddogion etholedig yn cadw llygad ar swyddogion etholedig mewn canghennau eraill o'r Llywodraeth. Mae'r rhan fwyaf o'i ymchwil yn astudio deddfwriaethau, ond mae hefyd ganddo ddiddordeb mewn llysoedd cyfansoddiadol, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau. Y Goruchaf Lys a'i rôl yn y system Americanaidd o wahanu pwerau.

Mae'r cynfyfyriwr Dr Mark Taubert yn Feddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Liniarol i Ymddiriedolaeth GIG Felindre a hefyd yn Diwtor ar ein cwrs MSc ar Feddygaeth Liniarol. Mae'n ysgrifennu am ofal lliniarol, salwch angheuol, gobaith a galar, ac aeth ei lythyr at David Bowie ar ôl ei farwolaeth ar draws y byd i gyd y llynedd.

Cewch restr lawn o'r siaradwyr ar wefan TEDxCaerdydd neu dilynwch TEDxCaerdydd ar Twitter, Facebook neu Instagram.

Rhannu’r stori hon

Ebostiwch ni gyda'ch cwestiynau am ein hymchwil arloesol.