Ewch i’r prif gynnwys

Sgwario'r economi gylchol

6 Ebrill 2017

Circular

Mae Prifysgol Caerdydd a Panalpina, un o brif ddarparwyr y byd o ran atebion cadwyni cyflenwi, yn edrych ar fodelau newydd ar gyfer lleihau gwastraff ac arbedion.

Fel rhan o'r berthynas sy’n tyfu rhwng y ddau sefydliad, bu ymchwilwyr a phartneriaid allanol yn edrych ar yr 'economi gylchol' yn ystod gweithdy herio Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK).

Economïau llinellol a chylchol

Mae gan fodelau cynhyrchu llinellol ddechrau a diwedd pendant; rydym ni'n cymryd, yn gwneud ac yna'n gwaredu. Fodd bynnag mae modelau cylchol yn hyrwyddo 'ail-weithgynhyrchu': ailddefnyddio cynhyrchion, lleihau gwastraff a defnydd effeithlon o adnoddau.

Mae symud i weithgynhyrchu'n golygu cynhyrchion a gynhyrchir yn foesegol ar brisiau is, lleihad yn y defnydd o ynni a chynhyrchu gwastraff, yn ogystal â swyddi newydd i wneud yn iawn am golledion mewn cyflogaeth a sgiliau yn y dyfodol.

Eto i gyd, nifer fach iawn o gwmnïau sy'n mynd ati i sefydlu modelau cylchol o gynhyrchu ac mae ymchwil academaidd yn parhau ar gam cychwynnol.

Bu'r gweithdy'n edrych ar y diffyg hwn o ddefnydd eang, gyda'r cyfranogwyr yn ystyried:

  • Y rhwystrau i'r economi gylchol o safbwynt busnes
  • Ble mae angen ymchwil pellach
  • Pa ddisgyblaethau academaidd a allai gyfrannu at hyn a sut

Dywedodd yr Athro Aris Syntetos, deiliad Cadair Ymchwil Gweithgynhyrchu a Logisteg Panalpina: "Mae gan fodelau economaidd botensial enfawr i'r cyhoedd ac maen nhw wrth galon ymchwil Ysgol Busnes Caerdydd..."

"Mae ein Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Panalpina a'r rhaglen ymchwil sylfaenol EPSRC yn dangos ein hymrwymiad i'r economi gylchol."

Yr Athro Aris Syntetos Distinguished Research Professor, DSV Chair

Ychwanegodd Mike Wilson, pennaeth byd-eang Logisteg yn Panalpina: "Mae'r berthynas rydym ni wedi'i meithrin rhwng Prifysgol Caerdydd a Panalpina wedi dod yn bartneriaeth wirioneddol mewn cyfnod byr iawn. Mae'r manteision mae'r ddwy ochr yn eu mwynhau'n tystio i'r cyd-feddwl, y cydymdrech a gwaith caled gan nifer o bobl. Roedd y gweithdy SPARK yn enghraifft arall o ba mor agos rydyn ni'n cydweithio."

Gweithdai herio SPARK

Y digwyddiad hwn oedd y cyntaf mewn cyfres o weithdai sy'n cael eu rhedeg fel rhan o fenter SPARK. Bydd y gyfres yn canolbwyntio ar bynciau sydd ag effaith gymdeithasol sylweddol, yn edrych ar feysydd cydweithio ac yn hadu ymchwil newydd ar draws disgyblaethau drwy gynllun Ymchwil Trawsnewidiol yr ESRC.

Dywedodd yr Athro Rick Delbridge, Arweinydd Academaidd SPARK: "Rydym ni wedi bod yn feiddgar fel sefydliad gyda Pharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol..."

"Mae ein cydweithio gyda Panalpina'n adeiladu ar allu cynyddol y Brifysgol i gyflawni arloesi a arweinir gan her ac sy'n canolbwyntio ar gymdeithas."

Yr Athro Rick Delbridge Professor of Organizational Analysis

Rhannu’r stori hon