Ewch i’r prif gynnwys

Cyflogwr Cyflog Byw

3 Tachwedd 2014

Living Wage

Mae Prifysgol Caerdydd yn gyflogwr Cyflog Byw swyddogol. 

Mae cais y Brifysgol am achrediad swyddogol wedi cael ei gymeradwyo gan y Sefydliad Cyflog Byw.

Prifysgol Caerdydd yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru, ac un o blith nifer fach o brifysgolion Grŵp Russell y tu allan i Lundain, i sicrhau achrediad cyflogwr Cyflog Byw.

Mae cytuno i fod yn Gyflogwr Cyflog Byw yn golygu bod pawb sy'n gweithio i Brifysgol Caerdydd, boed yn weithwyr y Brifysgol neu'n gweithio i gontractwyr a chyflenwyr allanol, yn cael cyflog fesul awr sy'n sylweddol uwch na'r isafswm cyflog cenedlaethol, sef £6.50.

"Mater o degwch sylfaenol yw bod pobl yn cael cyflog sy'n ddigon iddynt fyw arno," dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd.

"Dyna pam y gwnaeth Prifysgol Caerdydd y penderfyniad i dalu pob aelod staff cyflog byw gwerth £7.65 yr awr o 1 Ionawr 2014.

"O ganlyniad i ddatganiad heddiw, bydd y cyflog fesul awr yn codi i £7.85 dros y misoedd nesaf."

"Mae sicrhau achrediad fel Cyflogwr Cyflog Byw yn anfon neges glir ein bod yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gobeithio y bydd hynny'n dangos esiampl i gyflogwyr eraill yng Nghymru," ychwanegodd.

Cyflog fesul awr a osodir yn annibynnol a'i ddiweddaru'n flynyddol yw'r Cyflog Byw. Cyfrifir y Cyflog Byw yn unol â chost byw sylfaenol gan ddefnyddio Safon Isafswm Incwm y DU.

Mae'r penderfyniadau o ran beth ddylai gael ei gynnwys fel rhan o'r safon yn cael eu gwneud gan y cyhoedd; consensws cymdeithasol ydyw ynghylch yr hyn sydd angen ar bobl i fyw.

Mae cyflogwyr yn dewis talu'r Cyflog Byw ar sail wirfoddol.

Mae'r ymgyrch Cyflog Byw wedi bodoli ers deng mlynedd ac mae wedi codi oddeutu 45,000 o bobl allan o dlodi.

Dywedodd Jim Barnaville, Cyd-gadeirydd Dinasyddion Caerdydd: "Mae'r Cyflog Byw yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru – ac rydym wedi dyblu nifer y cyflogwyr Cyflog Byw achrededig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae penderfyniad Prifysgol Caerdydd i achredu yn dangos arweinyddiaeth amlwg, ac rydym yn gobeithio y bydd nifer fawr o gyflogwyr eraill yn eu dilyn nhw dros y flwyddyn i ddod."

Dangosodd astudiaeth annibynnol ar fanteision i fusnesau yn sgil gweithredu polisi Cyflog Byw yn Llundain fod dros 80% o gyflogwyr yn credu bod y Cyflog Byw wedi gwella ansawdd gwaith eu gweithwyr, tra bod absenoldebau wedi gostwng oddeutu 25%.

Adroddodd 66% o gyflogwyr effaith sylweddol ar recriwtio a chadw gweithwyr. Roedd 70% o gyflogwyr yn teimlo bod y Cyflog Byw wedi cynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr o ymrwymiad eu sefydliadau at fod yn gyflogwyr moesegol. 

Dywedodd Rhys Moore, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyflog Byw: "Rydym ni'n falch iawn o groesawu Prifysgol Caerdydd i'r mudiad Cyflog Byw fel cyflogwr achrededig.

"Mae'r cyflogwyr gorau bellach yn gwirfoddoli i dalu'r Cyflog Byw. Mae'r Cyflog Byw yn amcangyfrif cadarn sy'n adlewyrchu gwir gost byw, ac yn gwobrwyo diwrnod gwaith caled gyda chyflog teg."

"Mae gennym ni dros 700 o gyflogwyr achrededig blaenllaw, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, yn amrywio o argraffwyr annibynnol, siopau trin gwallt a bragwyr, i gwmnïau adnabyddus megis Nationwide, Aviva ac SSE.

"Mae'r busnesau hyn yn cydnabod nad yw glynu at yr isafswm cyflog cenedlaethol yn dda i'w busnes. Mae cwsmeriaid yn disgwyl gwell na hynny."

Rhannu’r stori hon