Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn y pump uchaf o ran rhagoriaeth ymchwil

18 Rhagfyr 2014

Ref LARGE

Mae ansawdd ac effaith gwaith ymchwil Caerdydd wedi sicrhau dyrchafiad sydyn yn nhablau'r gynghrair, gan wthio'r Brifysgol i bump uchaf prifysgolion y DU.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi torri i mewn i "Driongl Euraid" Rhydychen, Caergrawnt a Llundain, ac wedi cadarnhau ei lle fel un o brifysgolion gorau'r byd.

Mae'r Brifysgol wedi dringo 17 lle yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, sef asesiad cenedlaethol o waith ymchwil gan bedwar corff ariannu yn y DU, gan ddyrchafu ynghynt nag unrhyw brifysgol ymchwil arall sy'n rhan o Grŵp Russell.

Dyma ganlyniadau allweddol Prifysgol Caerdydd:

  • Y pumed brifysgol ar raddfa genedlaethol yn seiliedig ar ansawdd.
  • Yr ail brifysgol ar raddfa genedlaethol o ran effaith. Imperial College, Llundain, oedd yr unig brifysgol i guro Caerdydd o ran y mesur newydd hwn.
  • 5 allan o'r 27 disgyblaeth academaidd yn gyntaf o ran effaith, sef Pensaernïaeth, yr Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio; Peirianneg Sifil ac Adeiladu; Astudiaethau Cyfathrebu, Diwylliannol a'r Cyfryngau; Peirianneg Cyffredinol; Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth (gan gynnwys Ysgol y Gymraeg).
  • 6 allan o'r 27 disgyblaeth academaidd yn y pump uchaf o ran ansawdd, sef Peirianneg Sifil ac Adeiladu (cyntaf yn y DU); Seicoleg, Seiciatreg a'r Niwrowyddorau (ail yn y DU); Astudiaethau Cyfathrebu, Diwylliannol a'r Cyfryngau (ail yn y DU); Cymdeithaseg (trydydd yn y DU); Iechyd Perthynol (cydradd pedwerydd yn y DU); Addysg (cydradd pumed yn y DU).
  • 15 allan o'r 27 disgyblaeth academaidd yn y deg uchaf o ran ansawdd, gan gystadlu yn erbyn prifysgolion yn ogystal â sefydliadau arbenigol.
  • Ystyrir 87% o'r ymchwil a aseswyd yn 'flaenllaw ar raddfa fyd-eang' neu yn 'rhagorol yn rhyngwladol'.
VC Bookcase

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae'r cyflawniad eithriadol hwn yn cadarnhau safle Caerdydd fel un o brifysgolion gorau'r byd ac yn ein rhoi ar y map yn rhyngwladol ac yn genedlaethol.

"Rydym ni yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol tu hwnt ac nid ydym yn ofni gosod amcanion heriol.

"Mae cyflawni'r canlyniad rhagorol hwn yn brawf o holl ragoriaeth a gwaith caled pob aelod staff y brifysgol. Mae'n rhan o weledigaeth strategol eglur iawn y brifysgol a fydd yn gweld ein henw da yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol er budd Caerdydd, Cymru a'r DU."

Mae canlyniadau'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, a gafodd ei gyhoeddi heddiw (18 Rhagfyr 2014), yn dangos ansawdd ymchwil sefydliadau addysg uwch y DU ar draws pob disgyblaeth ac yn cyfiawnhau'r buddsoddiad o oddeutu £2 biliwn bob blwyddyn.

Am y tro cyntaf, mae cynghorau ariannu wedi galw am fesur effaith yr ymchwil ac, unwaith eto, mae'r brifysgol wedi perfformio'n rhagorol mewn perthynas â'r dangosydd hwn a bellach yn yr ail safle o ran prifysgolion y DU.

Gosododd y brifysgol darged uchelgeisiol i'w hun o fod ymlith deg uchaf prifysgolion y DU o ran ansawdd neu gyfartaledd man gradd.

Dywedodd yr Athro Julie Williams, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru: "Hoffwn longyfarch Prifysgol Caerdydd ar y canlyniadau ardderchog hyn. Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn dangos bod y sector addysg uwch yn cynhyrchu ymchwil o'r radd flaenaf mewn nifer o feysydd. Mae'n hynod foddhaol gweld y cynnydd sydd wedi ei wneud ers yr asesiad ymchwil blaenorol yn 2088, a'r effaith mae ymchwil yn ei chael tu hwnt i'r byd academaidd."

Rhannu’r stori hon