Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil addysgol ymhlith y pump gorau yn y Deyrnas Unedig

18 Rhagfyr 2014

Mae statws Prifysgol Caerdydd fel arweinydd ym maes ymchwil addysgol wedi'i gadarnhau gan ganlyniadau'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf.

Mae canlyniadau REF 2014, a gyhoeddwyd heddiw (18 Rhagfyr), yn graddio ymchwil addysgol yn gydradd 5ed yn y Deyrnas Unedig gydag 84% o'r ymchwil a gyflwynwyd yn rhyngwladol ragorol ac yn arwain y ffordd yn fyd-eang.

Yn ogystal, mae Addysg yng Nghaerdydd wedi'i graddio'n orau yn y Deyrnas Unedig am ddarparu amgylchedd ymchwil sy'n ffafriol i gynhyrchu ymchwil o'r radd flaenaf o ran ei bywiogrwydd a'i chynaliadwyedd.

Mae ymchwil addysgol yng Nghaerdydd wedi'i lleoli yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol lle y mae'n elwa ar ddiwylliant arloesol a rhyngddisgyblaethol. Mae ymchwil addysgol wedi'i threfnu'n bedair thema: Plentyndod, diwylliant a hunaniaeth; Addysg, sgiliau a marchnadoedd llafur; Dadansoddi polisi critigol; a Datblygiadau mewn methodoleg ymchwil.

Mae ein Canolfannau Ymchwil yn helpu i sbarduno ymchwil polisi sy'n gosod agendâu a hwyluso ymchwil drawsddisgyblaethol o ansawdd uchel sy'n cael effaith go iawn.

Dywedodd yr Athro Amanda Coffey, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Rydym yn falch bod ein hymchwil addysgol wedi'i graddio mor uchel. Rydym yn arbennig o falch o weld bod effaith uchel ein hymchwil wedi'i chydnabod. Mae uchafbwyntiau effaith ymchwil yr Ysgol yn cynnwys y rhaglen wrthysmygu arobryn yn ysgolion y Deyrnas Unedig a ddatblygwyd i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn pobl ifanc yn eu harddegau sy'n ysmygu. Roedd y rhaglen, a arweiniwyd gan ein Canolfan ar gyfer Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer Gwella Iechyd Cyhoeddus (DECIPHer), wedi treialu rhaglen ymyrryd a arweiniwyd gan gyfoedion ac aeth ymlaen i sefydlu cwmni dielw i drwyddedu'r rhaglen ar draws mwy o ysgolion."

Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn ymrwymedig i hybu cymdeithaseg gyhoeddus a pholisi, sy'n cael ei llywio gan gydweithredu ac ymgysylltu helaeth.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae diwylliant ymchwil bywiog yr Ysgol wedi parhau i gynyddu. Mae wedi datblygu màs cynaliadwy o fwy na 200 o staff ar draws ystod o ddisgyblaethau, ac wedi denu 236 o grantiau ymchwil gwerth £38 miliwn yn ystod y cyfnod asesu.

Mae'r lefel hon o gyllid yn ategu a chefnogi gweithgareddau cyhoeddi, effaith, ac ymgysylltu llwyddiannus ac amrywiol yr Ysgol.

Rhannu’r stori hon