Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil sy’n cael effaith fawr ymhlith y gorau yn y Deyrnas Unedig

18 Rhagfyr 2014

REF - Allied Health

Mae rhagoriaeth barhaus ein hymchwil iechyd ryngddisgyblaethol sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang – sy'n cynnwys cyfraniadau o'r ysgolion academaidd Deintyddiaeth, Gwyddorau Gofal Iechyd, Meddygaeth, Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, a Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol – wedi arwain at raddio Caerdydd ymhlith y goreuon yn y Deyrnas Unedig.

Mae ein llwyddiant yn deillio o ddarganfyddiadau arloesol sydd o fudd i iechyd a lles pobl.

Rhoddodd yr asesiad o ansawdd ymchwil prifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig, sef y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), sgôr o 3.42 allan o 4 i Gaerdydd yn y maes hwn, o gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig o ychydig dros 3 yn unig. Roedd hyn yn golygu mai ni oedd y trydydd gorau yn y wlad.

Mae effaith ein gwaith wedi bod yn enfawr, yn amrywio o gyflwyno therapïau a diagnosteg newydd, a arweiniodd at newid mewn canllawiau a safonau ymarfer, i ddatblygu a llywio mentrau polisi cyrff cyhoeddus.

Nid yw'n syndod bod 90% o'n cyflwyniadau i'r REF a ddangosodd ein budd i gymdeithas wedi cael y sgôr uchaf o bedair seren.

Yn ôl yr asesiad, roedd ein hamgylchedd ymchwil, sef un arall o feysydd y REF, wedi cyflawni'r sgôr pedair seren uchaf 100%, sy'n dangos ei fod yn "ffafriol i gynhyrchu ymchwil o ansawdd sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang". Ni oedd y gorau yn y Deyrnas Unedig o ran y maen prawf hwn.

Mae'r amgylchedd hwn hefyd yn cefnogi hyfforddiant israddedig ac ôl-raddedig, gan gyflenwi nifer o weithwyr proffesiynol gorau'r Deyrnas Unedig yn y disgyblaethau hyn.

Dywedodd yr Athro Mark Gumbleton, arweinydd cyflwyniad Caerdydd iuned asesu Perthynol i Iechyd y REF: "Mae REF 2014 wedi cadarnhau'r arbenigedd a'r diwylliant yng Nghaerdydd sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang i sicrhau buddion pellgyrhaeddol ac arwyddocaol i gymdeithas trwy ein rhagoriaeth ymchwil.

"Mae gan bob un o'r ysgolion iechyd ei ddisgyblaeth academaidd benodol ei hun, ond mae'r pwyslais cyffredin ar ymgysylltu â phroblemau'r byd go iawn er mwyn trawsnewid iechyd a lles pobl.  

"Mae REF 2014 wedi cydnabod llwyddiant ein hymagwedd ryngddisgyblaethol at ymchwil, ymagwedd a gefnogir gan staff rhagorol, cyfleusterau o'r radd flaenaf a'r myfyrwyr ymchwil disgleiriaf."

Rhannu’r stori hon