Ewch i’r prif gynnwys

Mae ymchwil peirianneg yn cael effaith fyd-eang

18 Rhagfyr 2014

REF - Engineering research is having a global impact

Cyflawnodd Caerdydd ganlyniadau rhagorol am ei hymchwil beirianneg yn REF 2014. Graddiwyd ymchwil Peirianneg Sifil ac Adeiladu gyntaf yn y Deyrnas Unedig am ei Chyfartaledd Pwynt Graddau ac effaith pedair seren ei hymchwil.

Ar ôl ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn 2013, mae'r canlyniad hwn yn cadarnhau statws Caerdydd fel canolfan ragoriaeth o ran ymchwil beirianneg sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang.

Mae ymchwilwyr ym maes Peirianneg Sifil ac Adeiladu yn arwain y ffordd wrth ddod o hyd i ddatrysiadau i rai o'r heriau byd-eang mwyaf dybryd sy'n ymwneud â'r amgylcheddau adeiledig a naturiol.

Mae'r ymchwil amlddisgyblaethol yn cyflawni rôl hollbwysig wrth leihau'r effaith ar yr amgylchedd a chynyddu arferion cynaliadwy mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys: adeiladu, tanwydd, ynni, gwaredu gwastraff, ansawdd dŵr a chydnerthedd rhag llifogydd. Mae hefyd yn darparu ffyrdd newydd o adeiladu a rheoli seilwaith cenedlaethol.

Cafodd 100% o'r astudiaethau achos Peirianneg Sifil ac Adeiladu a gyflwynwyd i'r REF y radd pedair seren uchaf am eu heffaith ehangach. Er enghraifft, mae gwaith ar ddatblygu modelau cywir a dibynadwy i ddiogelu pobl yn erbyn risgiau dŵr byd-eang (gan gynnwys llifogydd a llygredd)  wedi cael ei ddefnyddio gan gwmnïau mawr ar draws y byd ac wedi darparu buddion iechyd ac economaidd yn ogystal ag amgylcheddol.

Dywedodd yr Athro Roger Whitaker: "Rwy'n falch iawn â chanlyniad heddiw, sy'n cadarnhau bod ein hymchwil beirianneg ymhlith y gorau yn y byd. Rwy'n arbennig o falch ein bod ni wedi cyflawni'r sgôr ganrannol uchaf am effaith ymchwil, gyda gradd o 4* o blith holl brifysgolion y Deyrnas Unedig. Wrth gyflawni canlyniadau mor rhagorol, mewn peirianneg sifil a chyffredinol, rydym wedi dangos rôl hollbwysig ein gwaith wrth leihau effaith amgylcheddol a sicrhau dyfodol mwy diogel a chynaliadwy." ​

Ychwanegodd yr Athro Roger Falconer: "Roedd yn fraint wirioneddol i fod yn aelod o'r Ysgol a chael y cyfle i weithio, gyda chynifer o staff a myfyrwyr ymchwil mor alluog, ar rai o'r prosiectau dŵr byd-eang mwyaf heriol a chyffrous, a allai drawsnewid ansawdd bywyd i gynifer o bobl".

Rhannu’r stori hon