Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant ar gyfer y 5ed Gemau'r Ymennydd blynyddol

29 Mawrth 2017

Children at exhibit at Brain Games 2017

Rhoddodd tua 3,700 o blant a theuluoedd eu hymennydd ar brawf ddydd Sul yn nigwyddiad Gemau'r Ymennydd eleni yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Ar ddydd Sul 19 Mawrth, daeth y digwyddiad addysgol â thema'r ymennydd yn ôl i'r amgueddfa unwaith eto, am y pumed flwyddyn yn olynol.

Cafodd ymwelwyr o bob oedran gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gemau a ddyluniwyd i wneud i bobl feddwl am yr ymennydd. Roedd y gweithgareddau'n cynnwys heriau cof a gweithgaredd 'llawdriniaeth ar yr ymennydd' DIY, ynghyd â'r Dôm Ymennydd pwmpiadwy am y tro cyntaf eleni, wedi iddo gael ei gyflwyno'n llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd.

Trefnir digwyddiad eleni i gyd-fynd ag wythnos ymwybyddiaeth yr ymennydd. Er bod y rhan fwyaf o'r digwyddiadau wedi eu hanelu'n bennaf at blant rhwng saith ac un ar ddeg oed, roedd pobl o bob oedran yn ymuno â'r hwyl!

Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr, Dr Emma Kidd, o Ysgol Fferylliaeth ac Astudiaethau Fferyllol Prifysgol Caerdydd: “Cawsom ymateb rhagorol gan y miloedd o bobl a ddaeth i'r amgueddfa ac a fwynhaodd cymryd rhan yn yr holl weithgareddau, gan gynnwys neidio yn y Dôm Ymennydd, ac adnabod ffrwythau a llysiau o ddelweddau MRI.”

Mae Gemau'r Ymennydd yn dod â myfyrwyr ac ymchwilwyr o ysgolion a sefydliadau ledled y Brifysgol at ei gilydd, gan gynnwys Seicoleg, Fferylliaeth, Biowyddorau, Meddygaeth, Optometreg, Peirianneg, a Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI).

Children playing with puzzle at Brain Games 2017

Esboniodd Bethany Routley, Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn CUBRIC yn yr Ysgol Seicoleg: “Mae addysgu pobl ifanc am ba mor bwysig yw deall sut mae'r ymennydd yn gweithio yn flaenoriaeth allweddol i ni, ac rydym yn credu y dylai dysgu fod yn hwyl!

“Mae'n wych gweld pobl o wahanol adrannau a chyfnodau yn eu gyrfa yn cofrestru i helpu...”

“Ni fyddai modd cynnal digwyddiad o'r maint hwn heb y tîm o 100 o staff a myfyrwyr a roddodd o'u hamser i ymgysylltu â phobl am ymchwil niwrowyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Bethany Routley Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn CUBRIC

Mae'r prosiect yn cael cefnogaeth ariannol gan Ymddiriedolaeth Wellcome, ynghyd â'r Ysgol Seicoleg drwy CUBRIC, yr Ysgol Fferylliaeth a'r Gwyddorau Fferyllol, NMHRI, Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinwe Caerdydd (CITER) a Gofal Iechyd Siemens. Cafwyd cymorth hefyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a'r Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC).

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd hefyd wedi bod yn ymweld ag ysgolion cynradd o gwmpas Caerdydd i roi cyflwyniadau i blant am yr ymennydd, a'u hannog i ddod i ddigwyddiad Gemau'r Ymennydd.

“Roedd cyflwyno i'r plant yn brofiad boddhaus iawn,” dywedodd Ocean O'Hara, myfyriwr yn yr Ysgol Seicoleg. “Dywedodd un bachgen brwdfrydig ei fod bellach am ddod yn llawfeddyg ar yr ymennydd, felly roedd yn galonogol gweld bod ein cyflwyniad wedi agor ei lygaid i ryfeddodau'r ymennydd!”

Bydd aelodau o dîm Gemau'r Ymennydd yn mynd i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Morgannwg, a Thafwyl yng Nghaerdydd yr haf hwn, a bydd prif ddigwyddiad Gemau'r Ymennydd yn dychwelyd eto ym mis Mawrth 2018.

Rhannu’r stori hon

Mae datblygiadau mewn ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl yn golygu ein bod cam yn agosach at ddatrys y dirgelion tu ôl i anhwylderau seiciatrig a niwoddirywiol.