Ewch i’r prif gynnwys

Parhau i gefnogi'r Hanner Marathon

27 Mawrth 2017

Cardiff Half Marathon  - Starting line

Flwyddyn ar ôl digwyddiad bythgofiadwy Hanner Marathon y Byd/Prifysgol Caerdydd, mae Prifysgol Caerdydd wedi addo parhau i gefnogi Hanner Marathon Caerdydd fel prif noddwr.

Y Brifysgol fydd prif noddwr Hanner Marathon y Byd/Prifysgol Caerdydd am dair blynedd arall, hyd at 2020 o leiaf.

"Redeg ymhlith y pencampwyr"

Roedd llygaid y byd ar brifddinas Cymru flwyddyn yn union yn ôl (26 Mawrth), wrth i Geoffrey Kamworor faeddu Syr Mo Farah i gipio gwobr aur Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd/Prifysgol Caerdydd. Cafodd dros 16,000 o redwyr y cyfle i "redeg ymhlith y pencampwyr."

Saith mis yn gynharach, roedd Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad unwaith eto pan gyhoeddwyd mai nhw oedd prif noddwyr Hanner Marathon Caerdydd 2017. Cofrestrodd 25,073 o bobl ar gyfer y ras, dyna'r nifer uchaf erioed!

Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Mae ein partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd wedi ffynnu ers Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd IAAF y llynedd a Hanner Marathon Caerdydd 2017. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu'r bartneriaeth hyd at 2020 o leiaf... ”

““Prifysgol Caerdydd yw un o'r sefydliadau mwyaf adnabyddus yng Nghymru ac mae'n enwog ledled y byd am ei hymchwil arloesol ym maes iechyd. Bydd y bartneriaeth newydd yma yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i'r naill sefydliad fel y llall.”

Matt Newman Prif Weithredwr Run 4 Wales

“Mae Run 4 Wales wedi ymrwymo i wella iechyd a lles y genedl yn ogystal ag ymgysylltu â'r gymuned leol a rhoi rhywbeth yn ôl iddynt. Prifysgol Caerdydd yw'r noddwr delfrydol i'n helpu ni i ddatblygu yn y meysydd yma.”

Mae'r Brifysgol yn gwneud y mwyaf o'i pherthynas â'r ail hanner marathon fwyaf yn y DU, drwy barhau i wneud ymchwil i iechyd. Mae'n annog myfyrwyr, staff, cynfyfyrwyr ac aelodau o'r cyhoedd i godi arian ar gyfer ymchwil allweddol y Brifysgol ym maes iechyd.

Bydd dros 250 o leoedd rhedeg ar gael yn rhad ac am ddim i redwyr sy'n datgan eu bwriad i godi o leiaf £150 (£100 i fyfyrwyr) dros yr achos hwn.

#TîmCaerdydd

Bydd pob ceiniog o'r arian y bydd rhedwyr #TîmCaerdydd y Brifysgol yn ei godi yn mynd tuag at ymchwil ym meysydd canser, niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.

VC with top three marathon runners

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae'n newyddion gwych cael cyhoeddi ein bod yn parhau i gefnogi'r ail hanner marathon fwyaf yn y DU...”

“Mae Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr chwaraeon Cymru, ac mae'n ysgogiad mawr i annog pobl i fyw'n iachach.”

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

“Mae'n ategu agenda'r Brifysgol gan fod iechyd cyhoeddus yn rhan fawr o'n gwaith ac yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifrif.

“Ni yw prif ddarparwyr hyfforddiant iechyd a gofal iechyd yng Nghymru ac mae ein hymchwilwyr yn helpu i fynd i'r afael â heriau iechyd byd-eang. Dyma faes sy'n cael ei gefnogi gan y ras wrth i ni gymryd rhan.

#TeamCardiff runners

“Os ydych yn ystyried cymryd rhan yn 2017, beth am redeg fel rhan o #TîmCaerdydd a chodi arian ar gyfer ymchwil ym meysydd canser, niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl gan y Brifysgol.”

Cefnogir Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd hefyd gan bartneriaid strategol Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg ac Athletau Cymru.

Mae amser o hyd i gofrestru ar gyfer y ras a gynhelir eleni ddydd Sul, 1 Hydref. Ewch i www.cardiffhalfmarathon.co.uk i gofrestru a chael rhagor o wybodaeth.

Rhannu’r stori hon