Ewch i’r prif gynnwys

Mae Gwyddoniaeth yn Rhyngwladol

27 Mawrth 2017

Science is International

Gwaith celf gan imiwnolegydd o Brifysgol Caerdydd yn dathlu natur ryngwladol ymchwil

Nid ymdrech unigol gan athrylith yw gwyddoniaeth fel arfer. Yn hytrach, mae’n ymdrech ar y cyd sydd angen llawer o ddwylo a meddyliau i gyd yn gweithio tuag at nod cyffredin.  Mae cynhyrchiant ac ansawdd yn gwella'n sylweddol pan mae pobl o gefndiroedd a meddylfryd gwahanol yn dod â galluoedd unigryw i'r tîm ac yn ymdrin â chwestiynau gwyddonol mewn ffyrdd gwahanol.  Am y rheswm hwn, mae gwyddoniaeth yn y DU wastad wedi croesawu cyfraniadau gan ymchwilwyr o bob cwr o’r byd.

Film looking at the artwork and those involved

Mae celfwaith tri dimensiwn hynod o wreiddiol gan Dr Simone Twohig, yn dangos natur rhyngwladol ymchwil.  Mae’n dangos ffracsiwn bach iawn o'r bobl amrywiol sy'n astudio ac yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, a’r darganfyddiadau rhyfeddol y maent yn eu cynhyrchu.

Rhain yw’r dwylo sy’n cynnal yr ymchwil o’r radd flaenaf, sy’n cyfrannu at gyfoeth ac iechyd y DU.

Roedd pob llaw yn fowld o ddwylo gwyddonwyr unigol a myfyrwyr ôl-raddedig sy'n mynd ati i ymchwilio cwestiynau meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd.  Peintiwyd baneri gwlad genedigol yr ymchwilwyr ar y dwylo a’u gosod ar gefndir a ddangosai gynnyrch eu hymchwil, sy’n cwmpasu canser, diabetes, awtoimiwnedd a heintiau.

"This artwork is a glorious representation of the importance of having many hands joining forces to do great science, and the need to ensure that the UK government support scientists in putting in place a positive roadmap to ensure collaboration can continue across the EU post Brexit."

Yr Athro Valerie O'Donnell Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau

Mae natur rhyngwladol gwyddoniaeth yn amlwg wrth arsylwi fod gwyddonwyr y DU yn teithio’n eang, gyda 72% o ymchwilwyr y DU yn treulio amser mewn sefydliad y tu allan i’r DU rhwng 1996 a 2012, yn ôl tystiolaeth a gasglwyd gan Gymdeithas Prydain ar gyfer imiwnoleg.

Dengys y ffigurau diweddaraf bod tua 28% o academyddion prifysgolion y DU yn dod o'r tu allan i'r DU; mae’r gymhareb hon o staff rhyngwladol hyd yn oed yn fwy ym maes gwyddorau biofeddygol.  Er enghraifft, mae 40% o wyddonwyr Ganolfan Francis Crick yn Llundain, y labordy biolegol mwyaf yn Ewrop a adeiladwyd ar gost o £700 miliwn, yn dod o wledydd Ewropeaidd y tu allan i’r DU.

"What I enjoy most about my work, professionally and personally, is the international nature of scientific research. Over the past 20 years I have worked in Germany, Switzerland and the UK alongside lab members with more than 20 different nationalities, and I have co-authored articles with scientists from 70 different institutions all over the world."

Yr Athro Matthias Eberl Reader, Division of Infection and Immunity. Engagement Lead, Systems Immunity Research Institute.

Rhannu’r stori hon

Our systems biology-based research informs the development of novel diagnostics, therapies and vaccines against some of the greatest public health threats of our time.