Ewch i’r prif gynnwys

Buddsoddwr o'r Unol Daleithiau yn cefnogi busnes sydd wedi deillio o Brifysgol Caerdydd

27 Mawrth 2017

FaultCurrent’s full-scale prototype
Gosod prototeip llawn FaultCurrent yn derfynol yng nghyfleuster Eriez Magnetics yng Nghaerffili, de Cymru. O'r chwith i'r dde: Andy Cheer, Prif Swyddog Gweithredu FaultCurrent; Martin Ansell, Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol; Dr Jeremy Hall, Prif Swyddog Technoleg

Mae dyfais sy'n diogelu rhwydweithiau pŵer rhag ymyrraeth a difrod wedi ennill arian ychwanegol ar gyfer ei ddatblygu'n fasnachol.

Mae FaultCurrent Ltd yn defnyddio technoleg fagnetig arloesol i sicrhau bod y grid pŵer yn gallu ymdopi ag amodau pan fo'r llif yn ormodol. Mae hyn yn digwydd oherwydd y pwyslais cynyddol ar ddefnyddio ffyrdd eraill o greu ynni gan gynnwys cysylltu ffynonellau ynni eraill fel gwynt a solar.

Datblygodd y ddyfais yn dilyn ymchwil a wnaed gan Brifysgol Caerdydd. Mae'r ddyfais yn segur pan mae'r pŵer yn llifo yn ôl yr arfer, ond mae'n ymateb wrth synhwyro llif gormodol o bŵer. Mae'r ddyfais wedyn yn cyfyngu ar y llif i amddiffyn y systemau rhwydwaith pŵer presennol ac ynysu'r broblem yn ddiogel.

Mae Eriez Investments Ltd erbyn hyn yn gyfranddaliwr gyda FaultCurrent. Bydd Eriez Magnetics Europe Limited, a oedd yn rhan o waith gweithgynhyrchu prototeip llawn FaultCurrent, yn gweithgynhyrchu'r ddyfais yn fasnachol o dan drwydded yn eu cyfleuster yng Nghaerffili, de Cymru.

"Mae Eriez Magnetics wrth eu bodd eu bod yn dechrau buddsoddi yn FaultCurrent," dywedodd Tim Shuttleworth, Phrif Swyddog Gweithredol Eriez Manufacturing Company Inc o'r Unol Daleithiau.

"Mae gennym y wybodaeth a'r ddealltwriaeth o ddeunyddiau magnetig a phrosesau i gefnogi dyheadau FaultCurrent i dyfu fel busnes byd-eang."

Tim Shuttleworth, Eriez Manufacturing Company Inc

Dywedodd Martin Ansell, Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol FaultCurrent: "Gyda chymorth o Gronfa Entrepreneuriaid Ynni Llywodraeth y DU a'n buddsoddwr sefydlol, IP Group, mae FaultCurrent eisoes wedi profi prototeip llawn yn llwyddiannus. Bellach mae ganddynt y buddsoddiad sydd ei angen i droi'r dyluniad yn gynnyrch masnachol, sy'n addas ar gyfer gridiau dosbarthu pŵer.  Ein nod yw treialu'r ddyfais yn fasnachol cyn diwedd 2017."

Dywedodd Dr Nick Bourne, Pennaeth Datblygu Masnachol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rwy'n falch bod y Brifysgol wedi datblygu partneriaeth gynhyrchiol gydag Eriez Magnetics. Bydd hyn yn helpu sefydlu menter newydd ac uwch-dechnoleg yng Nghymru yn seiliedig ar ein cryfderau a'n harbenigedd."

Datblygwyd y dechnoleg sydd y tu ôl i waith FaultCurrent gan yr arbenigwr peirianneg magneteg, Dr Jeremy Hall o Ganolfan Magneteg Wolfson ym Mhrifysgol Caerdydd. Dywedodd Dr Hall: "Gall ein technoleg chwarae rôl bwysig wrth reoli'r galwadau newydd ar seilweithiau trydan sy'n heneiddio ac sydd eisoes dan ormod o bwysau. Yn sgîl hynny, bydd modd cysylltu ffynonellau ynni gwasgaredig glanach. Dyma gam ymlaen wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd."

Rhannu’r stori hon

Cydweithiwch gyda ni drwy ein prosiectau ymchwil, gwasanaethau ymgynghori, trosglwyddo technoleg a mwy