Ewch i’r prif gynnwys

Lansio Labordy Cyfiawnder a Chasglu Data

20 Mawrth 2017

A digital gavel
The Data Justice Lab will research digital media, social justice and data power.

Bydd y Labordy yn edrych ar y berthynas rhwng casglu data a chyfiawnder cymdeithasol ac fe'i lansiwyd gan yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol.

Roedd y lansiad yn cynnwys sawl darlith o bwys gan Virginia Eubanks (New America), Malavika Jayaram (Digital Asia Hub) a Steven Renderos (Center for Media Justice).

Bydd y labordy newydd yn creu gofod dynamig ar gyfer gwaith ymchwil a chydweithio yn un o ysgolion mwyaf blaenllaw’r DU ym maes ymchwilio i'r cyfryngau. Ei nod yw gwneud mwy o waith ymchwil a fydd yn edrych ar y berthynas gymhleth rhwng casglu data a chyfiawnder cymdeithasol. Drwy wneud hyn bydd yn tynnu sylw at wleidyddiaeth ac effaith prosesau casglu llawer o ddata.

Bydd y Labordy yn cael ei gyd-gyfarwyddo gan Dr Lina Dencik, Dr Arne Hintz a Dr Joanna Redden.

Dywedodd Dr. Dencik, "Mae ein trafodion arian, cyfathrebu, symudiadau, perthnasau a rhyngweithiadau â'r llywodraeth a chorfforaethau i gyd yn creu data, a defnyddir y data hwn i ddidoli a grwpio pobl neu unigolion.

"Gall y prosesau hyn effeithio ar unigolion yn ogystal â chymunedau cyfan wrth iddynt gael eu gwrthod rhag defnyddio gwasanaethau neu gael mynediad at gyfleoedd. Gallant hefyd gael eu targedu'n anghywir neu gall pobl fanteisio arnynt. Felly, mae angen ymchwilio i’r hyn a gynhyrchir yn benodol gan y patrwm hwn o gasglu data."

Bydd y Labordy yn dod yn rhan o grŵp ymchwil Cyfryngau Digidol a Chymdeithas yr Ysgol.

Dywedodd Dr Hintz, "Byddwn yn holi beth yw ystyr cyfiawnder cymdeithasol wrth fyw mewn cymdeithas sy'n casglu mwy o ddata, sut mae prosesau sy'n casglu data yn effeithio ar gymunedau, sut y mae llawer o ddata yn effeithio ar ein dealltwriaeth o lywodraethu a gwleidyddiaeth, a beth yw ein rôl ni yn hyn i gyd?"

Cewch ragor o fanylion am ymchwil y labordy a digwyddiadau ar y wefan, neu ar Twitter @DataJusticeLab lle cewch y wybodaeth ddiweddaraf a manylion y digwyddiadau.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.