Ewch i’r prif gynnwys

Mae menywod beichiog a mamau newydd yn teimlo bod pobl yn eu gwylio ac yn eu beirniadu

20 Mawrth 2017

Silhouette of mother pushing pram

Mewn astudiaeth fach a gyhoeddwyd yn Families Relationships and Society, cyfwelodd ymchwilwyr â pharau o famau a neiniau a chanfod bod faint y mae’r gymuned yn gwylio menywod beichiog a bwydo babanod wedi cynyddu'n sylweddol rhwng y cenedlaethau, gyda llawer o famau newydd yn dweud eu bod yn teimlo’u bod yn cael eu gwylio, eu tafoli a’u beirniadu.

Hefyd, soniodd rhai am brofiadau lle roedd dieithriaid yn eu holi am eu dewisiadau yn ystod beichiogrwydd a phan oeddent yn bwydo babanod.  Yn yr achosion mwyaf eithafol, roedd dieithriaid wedi rheoli ymddygiad merched beichiog drwy gyfyngu ar eu mynediad at fwyd yr oedden nhw o’r farn a fyddai’n niweidio’r ffetws.

'Arsylwi a’r ymyrraeth'

Meddai Dr Aimee Grant, ymchwilydd arweiniol ar yr astudiaeth, o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd: “Canfu ein hastudiaeth y gall mamau heddiw ddioddef mwy o oruchwyliaeth o'u cymharu â’r genhedlaeth flaenorol...”

“Disgrifiodd y mamau yn ein hastudiaeth sut roedd y plismona ymwthiol ar eu dewisiadau ffordd o fyw yn dechrau yn ystod beichiogrwydd ac wedyn yn parhau i effeithio ar eu bywydau bob dydd, yn enwedig yn ystod cyfnod bwydo babanod.”

Dr Aimee Grant Research Fellow

“Gall yr arsylwi a’r ymyrraeth hwn gan eraill arwain at fenywod beichiog a mamau newydd yn chwarae eu rôl fel mamau’n gyhoeddus mewn ffyrdd sy’n hynod hunanymwybodol, fel ei bod hi’n anodd dilyn cyngor gan weithwyr iechyd proffesiynol.”

Soniodd y cyfranogwyr am amrywiaeth o bwysau i fwydo eu babanod mewn ffyrdd penodol, gan gynnwys awydd cyffredinol i fwydo ar y fron, yn hytrach na defnyddio llaeth fformiwla i fabanod. Daeth hyn o wybodaeth gymdeithasol a gwybodaeth gan fydwragedd sy'n arwain at farn mai’r ‘fron sydd orau’. Sonion nhw fod aelodau’r teulu a dieithriaid yn eu holi sut roedden nhw’n mynd i fwydo eu babanod yn ystod beichiogrwydd ac a oeddent yn mynd i fwydo ar y fron, gyda ffrindiau a theulu yn awgrymu y dylent wneud hynny.

Rôl ‘mam dda’

Buont hefyd yn trafod eu bod yn ymwybodol bod pobl yn gallu eu gweld wrth iddynt fwydo babanod yn gyhoeddus, neu ym mhresenoldeb aelodau'r teulu, a bod hynny’n ymwneud â’r farn mai gwrthrychau rhywiol oedd bronnau a oedd i’w gorchuddio bob amser. Oherwydd hyn, roedd rhai ohonynt yn ceisio perfformio rôl  ‘mam dda' wrth fwydo babanod ar y fron yn gyhoeddus, pan oeddent yn ymwybodol fod ganddynt gynulleidfa, drwy ddangos eu bod yn bwydo ar y fron a dangos cyn lleied â phosibl o’u corff ar yr un pryd.  Ar y llaw arall, roedd menywod a oedd yn bwydo â llaeth fformiwla hefyd yn ceisio perfformio rôl ‘mam dda’ drwy guddio deunydd pacio llaeth fformiwla wrth baratoi poteli’n gyhoeddus.

Teimlai’r mamau newydd mai’r ffurf fwyaf heriol ar wylio oedd honno gan ddieithriaid, gan eu bod yn teimlo’n llai abl i’w rheoli. Soniodd un am ymweliad â chaffi lle roedd y gweinydd “fel rhyw fath o heddlu bwyd”, yn gwrthod gweini’r te prynhawn yr oedd wedi’i archebu oherwydd ei “bola mawr”, a oedd yn dangos ei bod yn feichiog.  Yn ystod ei chyfweliad, dywedodd y fam hon ei bod hi'n teimlo fel petai hi, neu o leiaf ei bol, yn “eiddo i bawb”.

Cael eich beirniadu

Cyfaddefodd yr holl famau newydd y gallai sylwadau ac ymddygiad gan eu teulu ddylanwadu ar eu teimladau tuag at fwydo babanod ac roedden nhw’n teimlo bod y sylwadau yn beirniadu eu gallu i ofalu am eu plant. Soniodd un o’r mamau am sylwadau gan aelodau o'r teulu am ba mor aml roedd hi’n bwydo ei babi a chyfaddefodd fod hyn wedi gwneud iddi amau a oedd hi’n gallu bwydo ei babi’n iawn. Soniodd un arall fod perthynas iddi wedi dweud wrthi na châi yfed alcohol ar noson allan oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron. Roedd hi’n teimlo bod yr ymyriad hwn yn ymwthiol ac yn anghwrtais, yn enwedig oherwydd ei bod hi eisoes wedi siarad â’i hymwelydd iechyd ynglŷn â sut gallai fwydo ei baban yn ddiogel â llaeth o'r fron ac yfed alcohol ar noson allan. Yn ogystal, soniodd hi fod ffrindiau hefyd wedi gwneud sylwadau ar ei chynlluniau i yfed alcohol, gan ddweud na fyddent yn eu beirniadu, ond roedden nhw’n gwneud iddi deimlo ei bod yn cael ei beirniadu drwy wneud hynny.

Ar sail canfyddiadau'r astudiaeth, mae Dr Grant yn awyddus i dynnu sylw at ffyrdd y gall y cyhoedd ei gwneud hi’n haws i fenywod beichiog a mamau newydd ymgyfarwyddo â'u rolau. Ychwanega: “Peidiwch â chyffwrdd bol y fenyw bol oni bai ei bod hi wedi rhoi caniatâd ichi.  Hefyd, os na fyddech chi’n holi rhywun beth roedden nhw wedi’i gael i ginio, mae’n debygol nad yw hi’n briodol ichi holi cwestiynau iddynt am sut maen nhw’n bwydo eu baban.

“Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd eisiau bwydo ar y fron ac sydd ag angen rhywfaint o gymorth, mae Llinell Gymorth Bwydo ar y Fron yn gallu rhoi cymorth dros y ffôn, ac mae rhwydwaith o grwpiau cymorth bwydo ar y fron ledled y DU.  Yn aml, Facebook yw’r lle gorau i ddod o hyd i wybodaeth. Mae cymorth ymarferol arall yn cynnwys gwneud yn siŵr fod mam wedi cael pryd o fwyd, a bod ganddi ddiod a’i bod yn gallu ei chyrraedd; mae bwydo ar y fron yn waith sychedig.”

Roedd y chwe phâr o famau/neiniau o ardaloedd difreintiedig trefol yn Ne Cymru. Dewiswyd yr ardaloedd hyn oherwydd bod cyfraddau isel o fwydo ar y fron a chyfraddau uchel o ran ymyriad iechyd y cyhoedd. Roedd plant ieuengaf y mamau rhwng chwe wythnos a 25 mis oed.  Roedd mamau eu hunain rhwng 22 a 43 oed, a’r neiniau rhwng 42 a 74 oed.

Cyhoeddir yr astudiaeth yn Families Relationships and Society.

Rhannu’r stori hon

Mae ein portffolio o waith yn cynnwys treialon cyffuriau ac ymyriadau cymhleth, mecanweithiau clefydau a thriniaethau, astudiaethau carfan a hysbysu polisi ac ymarfer.