Ewch i’r prif gynnwys

Diabetes Math 2 ar gynnydd

16 Mawrth 2017

Man using EpiPen

Yn ôl ymchwil dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae nifer y bobl yn y DU sydd â diabetes math 2 wedi treblu dros y ddau ddegawd diwethaf.

Mae'r canfyddiadau newydd yn seiliedig ar ddata a gasglwyd gan wasanaethau meddygon teulu yn y DU rhwng 1991 a 2014. Maen nhw'n dangos cynnydd amlwg mewn disgwyliad oes i bobl sy'n dioddef o'r clefyd, gan esbonio'r cynnydd hwn yn rhannol.

Mae nifer cynyddol y bobl sy'n dioddef o'r clefyd hefyd wedi'i gysylltu â gwelliannau mewn diagnosis a lefelau cynyddol o ordewdra. Rhwng 1993 a 2010, cynyddodd cyfran y bobl ordew yn y DU o 13% i 26% i ddynion ac o 16% i 26% i fenywod.

Dywedodd yr Athro Craig Currie o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae nifer y bobl sydd â diabetes math 2 yn y DU wedi cynyddu o 700,000 i tua 2.8m dros y ddau ddegawd diwethaf, ac mae'n dal i gynyddu...”

“Rydym hefyd yn gweld disgwyliad oes hirach i bobl sy'n dioddef o'r clefyd. Gall hyn fod oherwydd diagnosis cynt o'r clefyd yn ogystal â defnyddio cyffuriau fel tabledi pwysedd gwaed a statinau i reoli colesterol yn y gwaed.”

Yr Athro Craig Currie

Mae'r data hefyd yn dangos bod diagnosis diabetes math 2 yn dod yn fwy cyffredin wrth i bobl fynd yn hŷn, er bod y cynnydd hwn yn is ymysg pobl sy'n 80 oed neu'n hŷn. Roedd nifer yr achosion o ddiabetes hefyd yn uwch mewn dynion na menywod dros 40 oed yn gyffredinol. Roedd nifer yr achosion yn debyg rhwng dynion a menywod dan 40 oed.

Mae gan tua 4.5m o bobl ddiabetes yn y DU, a diabetes math 2 sydd gan dros 90% ohonynt.

Mae'r math hwn o'r clefyd yn datblygu pan nad yw'r celloedd yn y corff sy'n cynhyrchu inswlin, yn cynhyrchu digon o inswlin, neu pan nad yw'r inswlin sy'n cael ei gynhyrchu yn gweithio'n iawn (yr hyn a elwir yn ymwrthedd i inswlin).

Deiet iach a gwneud mwy o ymarfer corfforol yw'r driniaeth ar ei gyfer. Yn ogystal â hyn, yn aml mae angen meddyginiaeth a/neu inswlin er mwyn ei drin.

Cyhoeddir yr ymchwil ‘Prevalence, glucose control and relative survival of people with Type 2 diabetes in the UK from 1991 to 2013’ ym mhapur Diabetic Medicine.

Dyma'r sefydliadau a oedd yn rhan o'r ymchwil: Sefydliad Meddygaeth Boblogaeth, Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd; Global Epidemiology, Pharmatelligence,Adran Meddygaeth, Ysbyty Athrofaol Cymru; ac Adran Meddygaeth, Ysbyty Rudolfstiftung Vienna, Vienna.

Rhannu’r stori hon

Ffilm yn disgrifio’r ffyrdd lle gallwch gynnwys y cyhoedd yn y cylch ymchwil a’r gefnogaeth, arweiniad ac adnoddau sydd ar gael yng Nghymru.