Ewch i’r prif gynnwys

Annog menywod a merched ym meysydd STEM

13 Mawrth 2017

Women in lab

Ddydd Llun, 13 Mawrth, bydd arweinwyr busnes, y byd academaidd a Llywodraeth Cymru, yn dod at ei gilydd yn y Senedd, Caerdydd, i fynd i'r afael â'r diffyg menywod yn y pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yng Nghymru, ym mhresenoldeb Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol a Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.

Mae Dathliad Menywod Dawnus WISE yn dod â gweinidogion, academyddion, busnesau ac ysgolion sy'n cefnogi'r adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, at ei gilydd i fynd i'r afael â'r diffyg sgiliau STEM drwy annog mwy o fenywod a merched i gymryd diddordeb mewn gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg.

Comisiynwyd Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus gan yr athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, fydd yn cadeirio sesiwn Holi ac Ateb gydag arweinwyr diwydiannol ar y dydd.

Yr Athro Julie Williams

Yr Athro Julie Williams

Professor of Neuropsychiatric Genetics & Genomics

Email
williamsj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0) 29 2068 8326

Mae'r adroddiad yn amlygu heriau addysgol - sy'n amrywio o'r ffaith mai ychydig iawn o athrawon ysgolion cynradd sydd â chefndir STEM i'r nifer isel o ferched sy'n astudio ffiseg a chyfrifiadureg ar gyfer eu harholiadau Safon Uwch - ac yn y gweithle, lle dim ond un ym mhob chwe swydd STEM sy'n cael ei gwneud gan fenyw.

Dywedodd Helen Wollaston, prif weithredwr yr ymgyrch WISE a drefnodd y digwyddiad ac sy'n ymgyrchu dros gydbwysedd rhwng y rhywiau mewn pynciau STEM: "Mae gan Gymru nifer gwych o wyddonwyr benywaidd mewn swyddi uchel, gan gynnwys y Prif Gynghorydd Gwyddonol a dirprwy is-ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd. Maent yn profi bod dewis gwyddoniaeth yn agor drysau. Mae digwyddiad heddiw yn gyfle i ni gyd weithio gyda Llywodraeth Cymru, y byd academaidd a diwydiant i anfon neges gadarnhaol at y genhedlaeth nesaf o ferched yng Nghymru a'u teuluoedd, gan eu hysbrydoli i ddewis gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg er mwyn cael dyfodol mwy llewyrchus."

Cyd-gadeiriwyd yr adroddiad gan yr Athro Karen Holford, a gafodd ei phenodi'n ddiweddar yn ddirprwy is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, a'r athro Hilary Lappin-Scott, uwch ddirprwy is-ganghellor ymchwil ac arloesi ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gan y ddwy brifysgol gynlluniau i leihau'r bylchau rhwng y rhywiau a all fod werth £8miliwn ychwanegol mewn grantiau ymchwil yng Nghymru.

Yr Athro Karen M Holford

Yr Athro Karen M Holford

Professor

Email
holford@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 20 874607

"Mae bwlch gennym o ran menywod a gyrfaoedd academaidd," dywedodd Lappin-Scott, "Mae mwy o ferched na bechgyn yn astudio gwyddoniaeth ar gyfer eu gradd ond mae'r pwll enfawr hwn o ddoniau yn diflannu wrth i yrfaoedd dynion a menywod ddatblygu." Mae cynlluniau Prifysgol Abertawe yn cynnwys targed o gydraddoldeb 50:50 rhwng y rhywiau ar holl uwch-bwyllgorau'r sefydliad  erbyn 2020.

Mae gan Brifysgol Caerdydd gynlluniau i recriwtio mwy o academyddion benywaidd a hefyd eu hannog i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd. Mae eisoes saith o 12 aelod y bwrdd gweithredol yn fenywod. Mae hyn yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer prifysgolion gorau’r DU.

Esboniodd Holford raglen i helpu staff academaidd benywaidd: "Bydd cyfranogwyr yn treulio amser gydag aelod o fwrdd gweithredol y brifysgol mewn sesiwn holi ac ateb onest iawn am ei gyrfa ac i rannu sut y mae’n delio â heriau. Mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae wedi ysgogi llawer o'm cydweithwyr i wneud cais llwyddiannus am ddyrchafiad."

Women inspecting equipment in lab

Yn y digwyddiad, bydd noddwr brenhinol WISE, Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol, yn cwrdd â 50 o ferched o wyth ysgol yng Nghymru fydd yn cymryd rhan mewn sesiynau Pobl fel fi. Mae'r rhain yn caniatáu i ferched ddiffinio eu hunain ag ansoddeiriau megis trefnus, creadigol neu gyfeillgar. Gallant gysylltu eu personoliaeth â gyrfaoedd STEM a thrafod y rhain â menywod ifanc eraill sy'n gweithio mewn swyddi STEM.

Bydd y panel trafod yn cynnwys Trudy Norris-Grey, cadeirydd WISE a Rheolwr Gyfarwyddwr datblygu busnes byd-eang Microsoft, Helen Samuels, cyfarwyddwr peirianneg Network Rail, La-Chun Lindsay, Rheolwr Gyfarwyddwr yn GE Aviation Cymru, Sharon James, Uwch Is-lywydd Ymchwil a Datblygu RB (Reckitt Benckiser), Chris Jones Prif Weithredwr Dŵr Cymru a Helen Wollaston. Bydd yr Athro Julie Williams yn arwain y panel gan rannu enghreifftiau o arferion gorau i gael mwy o fenywod i STEM, o recriwtio myfyrwyr i benodi menywod ar fyrddau.

Mae annog menywod i STEM yn gwneud synnwyr economaidd, meddai Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: "Mae'r gynrychiolaeth isel o fenywod yn y gweithlu STEM yn broblem fawr i Gymru. Mae argymhellion yr adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus' yn arwain at fynd i'r afael â'r angen hwn ac mae gan bawb rôl i'w chwarae i annog mwy o fenywod a merched i ddilyn cyfleoedd a gyrfaoedd STEM."

Bydd Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol yn cwrdd â myfyrwyr Ysgol St Julian's, Casnewydd; Ysgol Gyfun Cwm Rhymni - Heol Gelli Haf, Coed-duon; Ysgol Gyfun y Coed Duon, Ysgol Uwchradd Lliswerry, Casnewydd; Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd; Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, y Barri; Ysgol Gyfun Rhymni, Tredegar; Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr, Glynebwy ac Ysgol Gyfun Cynffig, Pen-y-bont.

Rhannu’r stori hon

Dewch i gwrdd â'r arloeswyr sy'n defnyddio ymchwil arloesol i greu manteision ar gyfer yr economi, cymdeithas a'r amgylchedd.