Ewch i’r prif gynnwys

Lansio blwyddyn diwylliant y DU-India

13 Mawrth 2017

Reader in Asian Religions Dr James Hegarty meeting HM The Queen
Her Majesty The Queen and Dr James Hegarty.

Academyddion y Brifysgol yn mynd i ddigwyddiad proffil uchel yn Buckingham Palace

Mae academyddion o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi mynd i lansiad swyddogol Blwyddyn Diwylliant y DU-India.

Ymunodd gwesteion o fyd chwaraeon, ffasiwn, adloniant, y celfyddydau ac addysg uwch â'r Frenhines, y Tywysog Phillip a Dug a Duges Caergrawnt ar gyfer y lansiad, lle dathlwyd y gorau o ddiwylliant Prydain ac India.

Bydd Blwyddyn Diwylliant y DU-India, sy'n ddathliad o'r berthynas rhwng y DU ac India, yn cynnwys digwyddiadau diwylliannol, arddangosfeydd a gweithgareddau yn y ddwy wlad yn ystod 2017.

Aeth Ysgolheigion y Brifysgol, yr Athro Adam Hardy a Dr James Hegarty, i'r digwyddiad proffil-uchel yn Buckingham Palace ar 27 Chwefror.

Dywedodd Dr James Hegarty: "Rwy'n croesawu'r pwyslais y bydd y flwyddyn diwylliant yn ei roi ar yr hanes hir rhwng Prydain ac India, ynghyd â threftadaeth lenyddol ac artistig De Asia. Mae'r ffaith y bydd dau academydd o Brifysgol Caerdydd yno, ymhlith holl aelodau'r teulu brenhinol a'r enwogion, yn dangos pa mor uchel yw proffil y Brifysgol yn y maes ymchwil hwn."

Mae Llywydd Cymdeithas Ewrop ar gyfer Celf ac Archaeoleg De Asia, yr Athro Adam Hardy, yn gyfarwyddwr Ymarfer, Ymchwil a Datblygu mewn Dylunio a Phensaernïaeth De Asia yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Ac yntau'n Ddarllenydd mewn Crefyddau Asia, ar hyn o bryd mae Dr James Hegarty yn arwain prosiect tair blynedd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, o'r enw History of Genealogy, Genealogy of History: Family and the Narrative Construction of the Significant Past in Early South Asia.

Rhannu’r stori hon