Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogaeth i’r newid yn yr hinsawdd yn Ewrop

8 Mawrth 2017

Port Talbot steel works

Mae’r dadansoddiad cyntaf a mwyaf manwl o farn am newid hinsawdd yn rhai o wledydd mwyaf Ewrop wedi dangos bod y mwyafrif llethol yn credu bod y newid yn yr hinsawdd yn digwydd.

Mae adroddiad newydd, a gyhoeddwyd heddiw (8 Mawrth), yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn y pedair gwlad lle cynhaliwyd yr arolwg – y DU, Ffrainc, yr Almaen ac Norwy – hefyd yn cefnogi amrywiaeth o wahanol fesurau i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Roedd yr arolwg o dros 4,000 o aelodau o'r cyhoedd mewn gwledydd sy’n ganolog i’r polisi ar yr hinsawdd, yn edrych ar farn pobl am y newid yn yr hinsawdd, polisi’r hinsawdd ac opsiynau ynni yn y dyfodol.

Cafodd yr arolwg ei gydlynu gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ar y cyd â Phrifysgol Stuttgart yn yr Almaen, Sefydliad Symlog yn Ffrainc, Prifysgol Bergen a Chanolfan Rokkan yn Norwy, ac Allgymorth yr Hinsawdd (Climate Outreach) yn y DU.

Bod consensws gwyddonol cryf ar y newid yn yr hinsawdd

Dangosodd y canlyniadau fod y mwyafrif (dros 80% ym mhob un o’r pedair gwlad) yn credu bod hinsawdd y byd yn newid, ac mae cyfran debyg yn meddwl bod hyn yn cael ei achosi, o leiaf yn rhannol, gan weithgarwch dynol.

Mae ychydig o dan ddwy ran o dair (60%) yn credu ein bod eisoes yn teimlo effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ac mae ymatebwyr yr arolwg yn cysylltu’r prif effeithiau â’r ffordd y mae’r tywydd yn cael ei amharu yn eu gwlad, megis mwy o stormydd a llifogydd, tywydd anwadal, a chyfnodau mwy poeth neu sych.

Canrannau lleiafrifol yn unig (24% yn yr Almaen, 30% yn y DU, 33% yn Ffrainc, a 35% yn Norwy) sy’n credu bod consensws gwyddonol cryf ar y newid yn yr hinsawdd.

Mae mwyafrifoedd ym mhob un o’r pedair gwlad o blaid defnyddio arian cyhoeddus i baratoi nawr ar gyfer effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, ac i helpu gwledydd sy'n datblygu i ymdopi â thywydd eithafol, tra mae mwyafrifoedd o fwy na 70% ym mhob un o’r gwledydd yn cefnogi defnyddio arian cyhoeddus i roi cymhorthdal i ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Am y tro cyntaf holodd yr arolwg am farn Ewropeaid am awgrymiadau a glywyd yn ystod 2016 fod cysylltiad posibl rhwng y newid yn yr hinsawdd a mudo ffoaduriaid.

Roedd mwyafrif clir ym mhob un o’r pedair gwlad yn gwrthod mai’r newid yn yr hinsawdd yw un o’r prif achosion pam mae nifer uchel o ffoaduriaid yn dod i Ewrop; fodd bynnag, roedd 30% (yn y DU), 37% (Ffrainc), 39% (yr Almaen) a 57% (yn Norwy) yn credu y bydd y newid yn yr hinsawdd yn arwain at fwy o ymfudo i’w gwlad yn y dyfodol.

Yn ôl yr Athro Nick Pidgeon o’r Ysgol Seicoleg a arweiniodd y prosiect: "Mae'n galondid gweld bod y rhan fwyaf o’r bobl yn yr astudiaeth fawr iawn hon yn cydnabod bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd, a bod y gefnogaeth i'r angen am fynd i'r afael â hynny yn parhau i fod yn uchel ymysg y rhai a holwyd. Yn wir, niferoedd isel yn unig ym mhob un o’r pedair gwlad oedd yn amau bod y newid yn yr hinsawdd yn digwydd..."

“Gan fod y naws wleidyddol wedi newid mewn rhai gwledydd yn ddiweddar, mae polisi’r hinsawdd bellach yn dechrau ar gyfnod allweddol. Felly mae'n bwysicach fyth fod llunwyr polisi ar draws Ewrop a ledled y byd yn gwireddu cefnogaeth glir y cyhoedd sy’n cael ei dangos yn yr arolwg hwn i Gytuniad Paris yn 2015."

Yr Athro Nick Pidgeon Athro Seicoleg Amgylcheddol, Cyfarwyddwr Grŵp Ymchwil Deall Risg.

Rhannu’r stori hon

The transformation and use of energy will become increasingly constrained by the need to reduce CO2 emissions.