Ewch i’r prif gynnwys

Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen yn llofnodi cytundeb partneriaeth cyntaf yng Nghymru

7 Mawrth 2017

Yr Athro Rachael Langford ac aelodau o'r Adran Sbaeneg yn cwrdd â chynrychiolwyr Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen.
Yr Athro Rachael Langford ac aelodau o'r Adran Sbaeneg yn cwrdd â chynrychiolwyr Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen.

Ym mis Chwefror, cafwyd cadarnhad o bartneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd a Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen (SEEO).

Dyma'r bartneriaeth gyntaf o'i math rhwng y Swyddfa Addysg a darparwr addysg uwch yng Nghymru, a'r nod yw cynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar hyfforddiant i athrawon a datblygiad proffesiynol mewn colegau addysg bellach ac ysgolion uwchradd ledled Cymru.

Rydym yn gobeithio y bydd y bartneriaeth yn cefnogi myfyrwyr sy'n dysgu Sbaeneg ac yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgiliau Sbaeneg yn unol â mentrau Llywodraeth Cymru i annog pobl i ddysgu ieithoedd, megis Dyfodol Byd-eang.

Bydd yr Ysgol Ieithoedd Modern yn gartref i'r Swyddfa Addysg yng Nghymru, a fydd yn gweithio mewn swyddfa loeren yn yr adeilad ar y llawr gwaelod.

Ar 1 Chwefror gwnaethom groesawu'r Cynghorwyr Addysg, María Concepción Julián de Vega a Jesus Manuel Hernández González, a'r Cwnselydd Addysg Dr Gonzalo Capellán de Miguel i'r Ysgol i lofnodi cytundeb ar gyfer y bartneriaeth â Phennaeth yr Ysgol, yr Athro Rachael Langford.

Yna, cynhaliwyd cyfarfod rhwng y Swyddfa Addysg ac aelodau'r Adran Sbaeneg i drafod prosiectau cydweithredol yn y dyfodol.

Rhannu’r stori hon