Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduraeth yn cael ei graddio ymhlith “goreuon y byd”

8 Mawrth 2017

QS Top 50 - Communications and Media Studies

Mae Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn swyddogol ymhlith y gorau yn y byd yn ôl y rhestr ddiweddaraf o brifysgolion gorau’r byd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 8 Mawrth, 2017).

Bellach yn eu seithfed flwyddyn, Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwncyw’r canllaw diffiniol i ansawdd pynciau mewn prifysgolion ar draws y byd.

Caiff y rhestr ei llunio trwy werthuso 4,438 o brifysgolion ledled y byd ac archwilio cyfanswm o ryw 1,117 o sefydliadau.

Dadansoddir cyfanswm o fwy na 127m o gyfeiriadau mewn dyfyniadau a 18,900 o raglenni.

Yn ôl rhestr eleni Newyddiaduraeth yw’r pwnc a raddiwyd uchaf ym Mhrifysgol Caerdydd (yn safle 34), ac mae bellach ymhlith 50 sefydliad elitaidd uchaf y byd yng nghategori’r pwnc Astudiaethau Cyfryngau a Chyfathrebu am y tro cyntaf erioed.

“Un o Ysgolion mwyaf blaenllaw’r byd”

Meddai’r Athro Stuart Allan, Pennaeth Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd: "Rydym wrth ein bodd o weld bod Rhestr ddiweddaraf QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc yn cadarnhau ein statws fel un o Ysgolion mwyaf blaenllaw’r byd yn ein maes.

“Mae pwysigrwydd newyddiaduraeth o safon ar gyfer bywyd cyhoeddus yn destun newyddion ynddo’i hun, yn sgîl canlyniadau ymchwiliad Leveson, gwleidyddiaeth Brexit yn y cyfryngau, ac ymddangosiad ‘newyddion ffug’ a ‘ffeithiau amgen’, wrth i’r Arlywydd Trump gael ei ethol yn yr Unol Daleithiau…”

"Mae ein hymrwymiad i uniondeb foesegol newyddiaduraeth, nid lleiaf drwy ddod o hyd i ffyrdd newydd, arloesol o wella’i safonau drwy ymchwil, addysgu ac ymgysylltu â'r cyhoedd, yn gyfrifoldeb rydym ni’n bendant yn ei gymryd o ddifrif.”

Yr Athro Stuart Allan Pennaeth yr Ysgol

Mae’r llwyddiant hwn yn dilyn cyhoeddiad pwysig y bydd Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd yn symud i adeilad newydd modern yn Natblygiad Sgwâr Canolog Caerdydd, yn ymyl y darlledwr cenedlaethol BBC Cymru.

CGI - BBC and JOMEC building
Rif 2 yn y Sgwâr Canolog (argraff artist)

Bydd symud yn helpu i greu rhyngwyneb academaidd â’r diwydiant, ac yn sicrhau bod yr Ysgol mewn lle canolog mewn amgylchedd cyfryngau bywiog ym mhrifddinas Cymru, gan helpu i greu cysylltiadau cryfach â’r diwydiant, a rhoi hwb i gyflogadwyedd myfyrwyr trwy ddarparu mynediad uniongyrchol i sefydliadau pwysig ym myd y cyfryngau o ran newyddiaduraeth, yn ogystal â’r diwydiannau creadigol a diwylliannol.

Ymhlith pynciau eraill y Brifysgol a gafodd le amlwg yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn 2017 roedd Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig (safle 39) a Seicoleg (safle 43).

Mae pynciau Prifysgol Caerdydd yn cael lle mewn cyfanswm o 30 o’r 46 o bynciau, ac ym mhob un o’r pum cyfleuster sy’n cael eu cynnwys yn y rhestr.

Mae deg pwnc yn y 100 uchaf, o gymharu ag wyth yn 2016, ac mae 23 o bynciau yn y 200 uchaf, o gymharu â 22 y llynedd.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol: “Fel Prifysgol rydym ni’n anelu'n uchel a’nhuchelgais yw bod ymhlith 100 prifysgol gorau’r byd yn gyson...”

“Mae Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn profi, unwaith yn rhagor, ein bod yn cyflawni ein hamcan o fod yn y 100 uchaf yn gyson mewn pynciau allweddol megis newyddiaduraeth, seicoleg a Phensaernïaeth.”

Yr Athro Elizabeth Treasure Deputy Vice-Chancellor, Professor and Honorary Consultant, Dental Public Health

“Fodd bynnag, ein her yn y tymor hir o hyd yw parhau i wella safonau yn gyffredinol a sicrhau safle yn y 100 uchaf yn gyffredinol.”

Cyhoeddir Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc bob blwyddyn.

Mae canlyniadau 2017 ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.