Ewch i’r prif gynnwys

Arian yr UE i hybu effeithlonrwydd ynni trefol

6 Mawrth 2017

EU funds

Mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau bron £1m o arian gan yr UE i leihau’r defnydd o ynni a mynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy wella effeithlonrwydd ynni mewn mwy o adeiladau ac ardaloedd.

Caiff yr ymchwil ei harwain gan yr Athro Yacine Rezgui yng nghanolfan ragoriaeth Sefydliad Ymchwil Adeiladau (BRE) y Brifysgol, yn yr Ysgol Peirianneg.

Mae ei waith i wella rheoli ynni yn cynnwys dau safle yng Nghymru, un yn Aberdaugleddau yn Sir Benfro a’r llall yn hen waith dur Glyn Ebwy, Blaenau Gwent.

Caiff canfyddiadau’r ymchwil eu defnyddio ledled Ewrop mewn ymgais i sicrhau bod ynni’n cael ei ddefnyddio’n fwy effeithlon yn yr amgylchedd adeiledig.

Meddai’r Athro Rezgui: “Mae elfen amgylcheddol, gymdeithasol ac economaidd gref i’r gwaith.

“O safbwynt amgylcheddol, bydd y gwaith yn cyfrannu at gyflawni targedau ynni a lleihau carbon yr UE, a weithredir gan y DU, gan arwain y ffordd at amgylchedd adeiledig mwy cynaliadwy.

“O safbwynt cymdeithasol, bydd y gwaith yn helpu i leddfu ar broblem hollbwysig tlodi tanwydd, yng Nghymru’n arbennig.

“O safbwynt economaidd, bydd yr ymchwil yn hyrwyddo modelau busnes newydd ar draws y gadwyn gwerth ynni gyda photensial cryf i greu swyddi yn y sector ynni.”

Mae canolfan BRE y Brifysgol yn gweithio gyda’r BRE - sef yr awdurdod sy’n rheoleiddio’r amgylchedd adeiledig yn y DU - i wella adeiladau drwy ymchwil a gwybodaeth.

Mae’r tri phrosiect yn cynnwys nifer o bartneriaid o wledydd sy’n cynnwys y DU, yr Eidal, yr Almaen, Sbaen, Ffrainc, y Swistir, Gwlad Belg, y Weriniaeth Tsiec ac Iwerddon.

Y prosiectau yw:

piSCES (£380,000)

Gwaith i leihau costau ac ôl-droed carbon rhwydweithiau ynni yn y diwydiant prosesu pysgod. Ymhlith y partneriaid mae Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau (APA). O fewn eu cylch gwaith mae safle casgliad solar 5MW ger y porthladd sydd wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â’r grid. Bydd piSCES yn integreiddio’r ased hwn i fatrics ynni’r porthladd gan greu buddion i APA sy’n unol â’i strategaeth ynni.

THERMOSS (£300,000)

Prosiect rheoli ynni Ewropeaidd sydd am oresgyn rhwystrau at fanteisio ar systemau Gwresogi ac Oeri Ardal (GOA) yn Ewrop, gan gynnwys yn y DU, drwy ddylunio’r genhedlaeth nesaf o GOA gyda chyfran sylweddol a mwy o ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd gweithredol ac effaith lai ar yr amgylchedd. Mae THERMOSS yn canolbwyntio ar adeiladau preswyl sy’n gysylltiedig â rhwydweithiau gwresogi, gan gynnig ateb sy’n helpu i gysylltu anheddau hen a newydd.

PENTAGON (£300,000)

Nod PENTAGON yw creu cenhedlaeth newydd o eco-ardaloedd sy’n manteisio ar ystod eang o ffynonellau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, a alluogir gan wasanaethau rheoli ynni datblygedig sy’n gweithredu ar gludwyr ynni gwahanol (thermol, nwy a thrydan). At hynny, mae’r prosiect yn ymchwilio i ddefnydd technoleg cadwraeth ynni (gan gynnwys pŵer i nwy) i wella hyblygrwydd y cyflenwad ynni. Mae Cyngor Blaenau Gwent yn rhan o’r gwaith, ar safle The Works ar hen waith dur Glyn Ebwy, fel rhan o’r ymdrechion i leihau tlodi tanwydd yn y fwrdeistref sirol.

Mae ymchwilwyr yng nghanolfan BRE y Brifysgol hefyd yn datblygu llwyfan efelychiad ynni i helpu rheolwyr y cyfleuster, gan gynnwys rheolwyr ynni, i optimeiddio gweithrediad eu systemau ynni.

Defnyddir y dull efelychu yn y tri phrosiect, a hefyd ar saith safle ledled Ewrop.

Daw’r cyllid ar gyfer THERMOSS a PENTAGON o Horizon 2020, y rhaglen Ymchwil ac Arloesi fwyaf erioed yn yr UE, gyda bron €80bn o fuddsoddiad ar gael dros y saith mlynedd i 2020.

Mae arian yr UE ar gyfer piSCES yn dod o’r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd drwy raglen Gydweithredol Cymru Iwerddon. Rhaglen forol yw hon sy’n cysylltu sefydliadau, busnesau a chymunedau ar arfordir gorllewin Cymru ag arfordir de-ddwyrain Iwerddon.

Rhannu’r stori hon