Ewch i’r prif gynnwys

Cyfraddau uwch o gamddefnyddio sylweddau a goryfed ymhlith pobl ifanc sydd mewn gofal maeth

2 Mawrth 2017

Forlorn girl sat on steps

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod cyfraddau uwch ymhlith pobl ifanc sydd mewn gofal maeth o ysmygu'n wythnosol, goryfed, defnyddio canabis yn ddiweddar a bodlonrwydd bywyd is o'u cymharu â phlant sy'n byw gyda'u rhieni neu aelodau eraill o'u teulu.

Barn yr ymchwilwyr, sy'n dod o Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd y Brifysgol (DECIPHer) yw bod y canlyniadau negyddol hyn yn rhannol oherwydd perthnasoedd gwannach rhwng plant sydd â chyfoedion a staff yr ysgol.

Mae'r astudiaeth o fyfyrwyr ysgol uwchradd (11-16 oed) yng Nghymru yn edrych ar y materion sy'n effeithio ar bobl ifanc â'u perthynas â'r rhai sy'n rhoi gofal, athrawon a ffrindiau.

Roedd cyfraddau'r bobl ifanc sydd mewn gofal maeth a oedd yn ysmygu'n wythnosol 8 gwaith yn uwch o'i gymharu â phobl ifanc sy'n byw gyda'r ddau riant. Roeddent hefyd bron i 4 gwaith yn uwch na'r rhai sy'n byw gyda mam sengl.

Roedd yr ymchwilwyr yn defnyddio data a gasglwyd yn 2015 mewn arolwg iechyd a lles Cymru gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. Roedd yr arolwg yn ymchwilio i'r cysylltiad rhwng byw mewn gofal maeth â defnyddio sylweddau, beth yw barn pobl ifanc am ansawdd eu bywyd a sut mae eu canfyddiadau o'r cydberthnasau rhyngbersonol hyn yn effeithio ar y materion hyn.

O'r ymchwil, daeth i'r amlwg bod bodlonrwydd pobl ifanc 11-16 oed sydd mewn gofal maeth ar eu bywydau yn isel, a'u bod yn fwy tebygol o gael perthynas wael gydag athrawon a ffrindiau. Roeddent hefyd yn fwy tebygol o gael perthynas wael gydag athrawon, yn methu dibynnu ar eu ffrindiau, wedi cael eu bwlio o leiaf unwaith, neu wedi profi trais gan eu cariadon.

Dywedodd Dr Sara Long, o DECIPHer, sydd yn aelod o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol: "Mae diffyg cyfleoedd i bobl ifanc sy'n byw mewn gofal maeth o'i gymharu â phobl ifanc nad ydynt mewn gofal. Mae'n debygol bod hyn oherwydd ystod o ffactorau gofal a chyn-gofal sy'n gallu cael effaith andwyol ar greu perthnasoedd cymdeithasol cadarnhaol ac iach..."

"Mae ein hymchwil yn tynnu sylw at yr angen i ddatblygu a gwerthuso ymyriadau i wella lles pobl ifanc sydd mewn gofal maeth, a lleihau eu defnydd o sylweddau. Mae angen cefnogi pobl ifanc sydd mewn gofal wrth ddatblygu perthnasoedd rhyngbersonol iach."

Dr Sara Long Research Associate, DECIPHer

"Gall ymyriadau mewn ysgolion sy'n hybu perthnasoedd iach a chytbwys; lleihau lefelau bwlio; hyrwyddo perthnasoedd iach â'u cariadon; a pherthnasau cadarnhaol rhwng athrawon a myfyrwyr chwarae rôl allweddol o ran lliniaru'r effeithiau negyddol y mae pobl ifanc sy'n byw mewn gofal maeth yn eu cael.

"Mae angen astudiaethau hir dymor ar raddfa fawr er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r berthynas rhwng byw mewn gofal a chanlyniadau iechyd, addysg a chymdeithasol.

Mae'r astudiaeth 'A comparison of substance use, subjective wellbeing and interpersonal relationships among young people in foster care and private households: a cross sectional analysis of the School Health Research Network survey in Wales', wedi ei chyhoeddi yn y British Medical Journal Open, ac mae ar gael yma.