Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes

01 Mawrth 2017

Dr Dawn Knight

Mae prosiect mawr newydd i gofnodi'r iaith Gymraeg ac edrych ar sut y mae'n cael ei defnyddio heddiw yn mynd rhagddo.

Nod CorCenCC (Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes) yw datblygu'r casgliad cyntaf erioed o eiriau Cymraeg ar raddfa fawr, sy'n cynrychioli'r amrywiaeth eang o iaith y mae pobl ar lawr gwlad yn ei defnyddio.

Fe'i lansiwyd yn swyddogol ar 28 Chwefror 2017 yn Adeilad y Pierhead, Caerdydd.

Roedd Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn y lansiad, ac roedd yn gyfle i ymwelwyr ddod i wybod mwy am y prosiect. Mae'r prosiect ar y cyd rhwng Prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Caerhirfryn a Bangor yn torri tir newydd wrth greu corpws o Gymraeg cyfoes ar raddfa fawr a fydd yn agored i bawb i'w ddefnyddio.

Speakers at the CorCen CC launch

Mae'n cael ei gefnogi gan lysgenhadon enwog - y bardd Damian Walford-Davies, y cerddor a'r cyflwynwraig Cerys Matthews, y ddarlledwraig Nia Parry a'r dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens. Prosiect cymunedol yw hwn sy'n defnyddio technolegau ffonau symudol a digidol i alluogi'r cyhoedd i gymryd rhan.

Yn y digwyddiad, cafwyd cyfle i weld ap casglu data newydd a fydd yn galluogi siaradwyr Cymraeg o bob cefndir i gyfrannu at y prosiect. Yn ogystal, rhannodd partneriaid a llysgenhadon CorCenCC eu hargraffiadau o sut y bydd CorCenCC yn effeithio ar eu hymchwil a'r gymuned Gymraeg yn ehangach.

Mae'r tîm ymchwil ar gyfer y corpws yn gobeithio y bydd yn cynnwys 10 miliwn o eiriau Cymraeg, gan roi tystiolaeth gadarn o ddefnydd Cymraeg gyfoes. Bydd hyn ar gyfer ymchwilwyr academaidd, athrawon, dysgwyr, gwneuthurwyr geiriaduron, cyfieithwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y mae gwahanol siaradwyr o bob dosbarth yn defnyddio'r Gymraeg.

Dywedodd Dr Dawn Knight, arweinydd y prosiect o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn gobeithio datblygu'r corpws byw ac esblygol hwn, y cyntaf ar raddfa fawr, i gynrychioli'r Gymraeg ar draws gwahanol ddulliau cyfathrebu, a chael defnyddwyr cyfredol yr iaith i'w lenwi.  Byddwn yn ymgysylltu â'r cyhoedd mewn sawl ffordd, gan ddefnyddio gwahanol fathau o dechnoleg newydd i wneud hynny. Bydd hyn yn cynnwys ap torfoli CorCenCC...”

Dawn Knight

"Ychydig iawn o enghreifftiau sydd o ddefnyddio data corpws wedi'i dorfoli, ac mae'n gyfeiriad newydd sy'n cyd-fynd â dulliau mwy traddodiadol o gasglu data ieithyddol."

Dr Dawn Knight, Senior Lecturer

Ychwanegodd Steve Morris o Brifysgol Abertawe: "Prosiect yw hwn am ddulliau defnyddio'r iaith Gymraeg yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol a bydd yn dangos i ni'r amrywiadau a'r newidiadau sy'n digwydd wrth ddefnyddio iaith, megis gwahaniaethau rhanbarthol neu ddefnydd treigladau dros amser...”

“Drwy wneud siaradwyr eu hunain yn gyfrifol am gyfrannu at y corpws, gallant fod yn sicr mai'r recordiadau mor naturiol a chywir â phosibl o Gymraeg bob dydd a fydd yn cael eu rhannu."

Steve Morris, Prifysgol Abertawe

Meddai Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: "Pleser o’r mwyaf yw bod yma heddiw ar gyfer y prosiect cyffrous hwn. Bydd y gwaith hwn yn rhoi cofnod go iawn i ni o sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn gwirionedd ac yn ein helpu i ddatblygu rôl y Gymraeg mewn technoleg. Bydd hyn yn hollbwysig os ydym am gyrraedd ein targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

CorCen CC logo

Ariennir CorCenCC gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mae Llywodraeth Cymru; Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; WJEC-CBAC; Cymraeg i Oedolion; S4C; BBC; y Lolfa; SaySomethingin.com a Geiriadur y Gymraeg hefyd ynghlwm â'r prosiect. Cafwyd arian ychwanegol ar gyfer y lansiad gan y British Council; Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe'r Ysgol.