Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth a gynhaliwyd ledled y DU yn dangos gwahaniaeth enfawr yn nifer y plant mewn gofal mewn gwahanol godau post

28 Chwefror 2017

Two young children overlooking community from hillside

Mae astudiaeth y bu Prifysgol Caerdydd yn rhan ohoni wedi amlygu anghydraddoldebau sylweddol o ran lles plant yn y DU, ac mae plant mewn ardaloedd tlotaf Cymru 16 gwaith yn fwy tebygol o fod mewn gofal na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

'Graddiannau cymdeithasol cryf'

Canfu'r ymchwilwyr fod 'graddiannau cymdeithasol cryf' yn y cyfraddau ymyrraeth ar draws y pedair gwlad. Wrth i lefel amddifadedd y cymdogaethau gynyddu, gwelwyd cynnydd sylweddol yng nghyfran y plant naill ai 'mewn gofal' neu ar gynllun amddiffyn plant.

Roedd academyddion o saith prifysgol ym Mhrydain yn rhan o'r ymchwil – Coventry, Sheffield, Huddersfield, Caerdydd, Caeredin, Stirling a Phrifysgol Queen's Belfast – a chawsant eu hariannu gan Sefydliad Nuffield i archwilio data ynglŷn â mwy na 35,000 o blant a oedd naill ai mewn gofal neu ar gynlluniau amddiffyn plant ym mis Mawrth 2015, pan ddechreuodd yr astudiaeth.

Cymerodd pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru ran yn yr astudiaeth. Roedd 2936 o blant ar y gofrestr amddiffyn plant (sampl 100%) a 5350 o blant mewn gofal (sampl 95%).

Dyma ganfyddiadau Prosiect Anghydraddoldebau Lles Plant, sy'n cael eu cyflwyno mewn cynhadledd yn Llundain heddiw:

  • mae plant yn y 10% mwyaf difreintiedig o gymdogaethau Cymru 24 gwaith yn fwy tebygol o fod ar y gofrestr amddiffyn plant  na phlant yn y 10% lleiaf difreintiedig;
  • ledled y DU, mae pob cynydd mewn amddifadedd yn arwain at gynnydd o tua thraean yn y tebygolrwydd y bydd plentyn mewn gofal;
  • ym mhob un o'r pedair gwlad mae mwy o blant yn byw yn y 20% o gymdogaethau mwyaf difreintiedig, yn enwedig yng Ngogledd Iwerddon.

Siaradodd yr ymchwilwyr ag awdurdodau lleol a gweithwyr cymdeithasol yn Lloegr a'r Alban ynglŷn â'u dull o wneud penderfyniadau am blant a theuluoedd unigol. Yn aml, roedd tlodi'n cael ei ystyried yn elfen anochel o ymarfer, yn hytrach nag yn elfen allweddol y dylid canolbwyntio arni er mwyn cefnogi teuluoedd.

Nododd llawer o'r staff yn y ddwy wlad eu bod yn teimlo eu bod wedi eu trechu gan gymhlethdod yr anghenion yr oeddent yn ei weld mewn teuluoedd, ac nid oeddent yn teimlo eu bod yn gallu newid yr anghydraddoldebau yr oeddent yn eu gweld.

Dywedodd yr Athro Jonathan Scourfield o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym yn gwybod bod tlodi ac anghydraddoldeb yn arwain at gymaint o ganlyniadau negyddol...”

“Mae ein hymchwil yn dangos mai un o ganlyniadau mwyaf gwenwynig tlodi yw'r niwed i blant. Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu bod pob plentyn sy'n byw mewn ardal dlawd mewn perygl, ond mae yna gysylltiad rhwng cam-driniaeth, esgeulustod a byw mewn tlodi.”

Yr Athro Jonathan Scourfield Professor

“Yng Nghymru, mae angen i waith amddiffyn plant a gwaith i leihau tlodi fynd law yn llaw."

Dywedodd y prif ymchwilydd, yr Athro Paul Bywaters o Brifysgol Coventry: "Nid mater o bwyntio bys at awdurdodau lleol yw hwn, nac o roi'r bai ar unrhyw un yn benodol am sefyllfa y mae taer angen rhoi sylw iddi...”

“Rydyn ni'n edrych yn fanwl ar y sector lles plant, ac ar lywodraethau'r DU, ac yn dweud 'Dyma'r sefyllfa sydd ohoni - nawr beth allwn ni ei wneud i'w datrys?'"

Yr Athro Paul Bywaters Prif ymchwilydd, Prifysgol Coventry

“Yn y pen draw, ein nod yw sicrhau bod lleihau anghydraddoldebau o ran lles plant yn flaenoriaeth allweddol mewn polisïau, yn yr un modd y mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac addysg wedi cael eu blaenoriaethu yn y blynyddoedd diwethaf."

Rhannu’r stori hon

Find out more about this programme and how to apply.