Ewch i’r prif gynnwys

Oscar i un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd

27 Chwefror 2017

CU graduate Joanna Natasegara and Orlando von Einsiedel at the 74th Annual Peabody Awards

Mae un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi ennill Oscar ar gyfer rhaglen ddogfen Netflix ynglŷn â'r rhyfel yn Syria.

Cynhyrchwyd The White Helmets gan Joanna Natasegara, a raddiodd gyda BA mewn Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol yn 2003, ac mae'r rhaglen yn ymwneud â grŵp o achubwyr gwirfoddol sy'n rhoi eu bywydau mewn perygl i helpu pobl yn rhyfel cartref Syria.

Joanna a chyfarwyddwr y rhaglen ddogfen, Orlando von Einsiedel oedd yr unig enillwyr o wledydd Prydain yng Ngwobrau'r Academi eleni.

Dywedodd y ddau wrth y BBC eu bod wrth eu bodd ar ran 'Helmedau Gwyn' Syria.

"Rydyn ni'n teimlo bod yr Academi wedi cyflwyno'r wobr hon i anrhydeddu eu gwaith. Rydyn ni'n teimlo bod y wobr yn cydnabod eu gwaith," meddai Joanna.

“Trais yn Syria”

"Mae gennym deimladau cymysg am y sefyllfa. Yn ddelfrydol, ni fyddem wedi gorfod gwneud y ffilm hon o gwbl. Yn ddelfrydol, ni fyddem yma heno i gael y wobr hon.

"Ond roedd yn rhaid i ni greu'r ffilm, ac felly rydym yn falch eu bod, o leiaf, wedi cael y cydnabyddiaeth maen nhw'n ei haeddu."

Ar y llwyfan darllenodd y cyfarwyddwr, Orlando, ddatganiad gan sylfaenydd yr Helmedau Gwyn, Raed Saleh, yn galw am ddiwedd i'r "trais yn Syria".

Siaradodd Prifysgol Caerdydd â mam Joanna, Barbara, oedd yn falch iawn o lwyddiant ei merch.

"Mae Joanna yn teimlo’n gryf ynghylch rhoi llais i bobl ddifreintiedig, y bobl hynny na allant o reidrwydd siarad drostynt eu hunain," meddai Barbara.

"I raddau helaeth, dyma rywbeth sydd wedi deillio o’i hamser yn y Brifysgol. Fe astudiodd Grefyddau India, a dim ond hi ac un myfyriwr arall yn ei dosbarth wnaeth arbenigo mewn Bwdhaeth ac Islam; rydw i’n credu bod astudio’r testunau yn uniongyrchol yn rhan o’i gradd wedi rhoi rhoi llawer iawn o empathi a dealltwriaeth iddi."

'Yn falch ofnadwy o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd'

Meddai TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd: "Ar ran y Brifysgol, hoffwn longyfarch Joanna ar ei champ arbennig yn ennill Oscar.

"Mae mor braf clywed bod Joanna yn rhoi clod i’r Brifysgol am ei helpu i gyrraedd uchelfannau ei phroffesiwn. Rydym yn falch ofnadwy o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd fel Joanna sy'n mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych."

Mae'r ffilm, a enwebwyd yng nghategori rhaglen ddogfen fer am bwnc, yn cynnig cipolwg ar fywydau pob dydd yr achubwyr, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel yn 2016.

Yn ôl Helmedau Gwyn Syria mae eu hachubwyr, sy'n gweithredu'n niwtral a heb arfau, wedi achub mwy na 78,000 o bobl yn Syria, ond mae llawer o bobl nad oes modd iddynt eu cyrraedd.

Mae Joanna, sylfaenydd cwmni cynhyrchu Violet Films, sy'n seiliedig yn y DU, hefyd wedi cynhyrchu'r rhaglen ddogfen nodwedd a enwebwyd ar gyfer BAFTA a Gwobr Academi, Virunga, sy'n dangos stori'r ceidwaid parc sy'n rhoi eu bywydau mewn perygl i achub parc cenedlaethol yn Affrica.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.