Ewch i’r prif gynnwys

Rhoi'r gorau i'r gweiddi

24 Chwefror 2017

Man shouting through megaphone

Wrth i farn wleidyddol pobl ddechrau mynd yn fwy eithafol mewn nifer o ddemocratiaethau gorllewinol, mae prosiect newydd dan arweiniad prifysgolion Caerdydd a Chaerfaddon yn ceisio brwydro yn erbyn y twf mewn ymddygiad haerllug ac ymosodol a welir mewn dadleuon gwleidyddol.

Yr Athro Alessandra Tanesini, athronydd o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd a'r Athro Gregory Maio, seicolegydd o Brifysgol Caerfaddon fydd yn gyfrifol am y prosiect. Byddan nhw'n datblygu ac yn arbrofi gyda dulliau ymarferol o ymyrryd er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiadau fel gweiddi, gwawdio, wfftio neu dorri ar draws pobl yn anghwrtais. Mae'r ymddygiadau hyn yn ymddangos yn fwy cyffredin heddiw.

'Agweddau amddiffynnol a balchder deallusol'

Bydd y tîm yn recriwtio 320 o wirfoddolwyr o blith myfyrwyr a'r gymuned ac yn mesur eu hunan-barch a'u hagweddau at faterion dadleuol. Bydd grwpiau o wirfoddolwyr yn dadlau'r pynciau cynhennus hyn, gan alluogi ymchwilwyr i nodi enghreifftiau o ymddygiadau haerllug. Byddan nhw'n profi a oes modd rhagweld yr ymddygiadau hyn ar sail yr agweddau a nodwyd. Ar yr un pryd, bydd y tîm yn profi effeithiolrwydd hunan-gadarnhad fel techneg i leihau ymddygiad haerllug.

Dywedodd yr Athro Tanesini o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth: "Mae'r math hwn o ddadlau ymosodol yn aml yn digwydd oherwydd agweddau amddiffynnol a balchder deallusol. Mae hyn yn gelyniaethu'r cyhoedd...”

“Bydd ein hastudiaeth yn canolbwyntio ar dechnegau hunan gadarnhad drwy wneud i bobl feddwl am y gwerthoedd sy'n bwysig iddynt. Bydd hyn yn rhoi hwb i'w hunan-fri. Rydym yn disgwyl y bydd hyn yn arwain at lai o ymddygiadau haerllug ac ymosodol mewn dadleuon."

Yr Athro Alessandra Tanesini Professor

Mae'r ymchwil yn un o 10 o brosiectau arloesol sy'n cael eu hariannu gan Sefydliad John Templeton drwy fenter Humility and Conviction in Public Life, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Connecticut. Mae'r rhaglen hon yn chwilio am ffyrdd o feithrin ffyrdd mwy iach o gynnal dadleuon a sgyrsiau cyhoeddus, yn enwedig wrth gydbwyso dwy nodwedd amlwg mewn democratiaeth: gostyngeiddrwydd deallusol ac argyhoeddiad o gred.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn a'r fenter ehangach ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cyfuno'r safonuchwaf o ddysgu gydag ymagweddau unigryw at ein diddordebau craidd ym meysydd iaith, cyfathrebu, llenyddiaeth, damcaniaeth feirniadol ac athroniaeth.