Ewch i’r prif gynnwys

Cartref newydd ar gyfer Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd

27 Chwefror 2017

BBC staff with Cardiff students at new site
Gwenllian Glyn, cyflwynydd a gohebydd Newyddion 9 y BBC (ar y chwith) a Behnaz Akhgar, cyflwynydd tywydd BBC Cymru (ar y dde) – ill dwy wedi graddio yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol - gyda rhai o fyfyrwyr newyddiaduraeth darlledu presennol yr Ysgol.

Bydd Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd yn symud i adeilad modern yn Natblygiad Sgwâr Canolog Caerdydd, yn ymyl y darlledwr cenedlaethol BBC Cymru.

Bydd symud i Rif 2 yn y Sgwâr Canolog yn creu rhyngwyneb diwydiant-academaidd, ac yn sicrhau bod yr Ysgol mewn safle creiddiol fel rhan o amgylchedd cyfryngau bywiog yng nghanol dinas Caerdydd.

Mae’r Ysgol eisoes wedi’i chydnabod ar draws y byd am ei rhagoriaeth ym maes addysg ac ymchwil, a bydd adleoli’r Ysgol yn meithrin cysylltiadau cryfach â’r diwydiant, gan roi hwb i gyflogadwyedd myfyrwyr trwy gynnig mynediad uniongyrchol at sefydliadau blaenllaw ym maes newyddiaduraeth, yn ogystal â’r diwydiannau creadigol a diwylliannol.

CGI - BBC and JOMEC building
Rif 2 yn y Sgwâr Canolog (argraff artist)

Y gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth

Mae’r adleoli’n rhan o fuddsoddiad ehangach o £260m gan y Brifysgol i drawsnewid profiad ei myfyrwyr. Bydd y Brifysgol yn buddsoddi cyfanswm o £600m dros y blynyddoedd nesaf i gynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr, yn y gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth.

Mae gan yr Ysgol a BBC Cymru berthynas waith sy’n ymestyn yn ôl ddegawdau, a hynny yn sgîl rhaglen hirsefydlog o interniaethau hyfforddiant proffesiynol mewn newyddiaduraeth. Mae nifer o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol wedi mynd ymlaen i rolau amlwg fel newyddiadurwyr i’r BBC yn ystod eu gyrfaoedd, gan gynnwys Jason Mohammad, Alan Johnston, Laura Trevelyan, Manish Bhasin, Ben Brown ac Behnaz Akhgar.

Nod y bartneriaeth newydd gryfach hon fydd rhoi cyfle i gyfnewid gwybodaeth a phrofiad, yn ogystal â rhannu cyfleusterau, ymchwil ac adnoddau arloesol. Mae nifer o fentrau ar y cyd yn cael eu datblygu i feithrin y bartneriaeth, a bydd manylion llawn yn cael ei datgelu yn nes at adeg y symud.

'Prifddinas greadigol Cymru'

Meddai’r Athro Stuart Allan, Pennaeth Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd: “Mae’r Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yn un o’r ysgolion mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.  Bydd enw da byd-eang y BBC ar gyfer cynhyrchu cyfryngau, ynghyd â dyluniad arloesol yr adeiladau newydd, yn golygu bod hon yn ganolfan ragoriaeth a fydd yn wir ymhlith y goreuon yn y byd...”

"Mae hwn yn gyfle cyffrous, ac mae’r Ysgol yn ymdrechu i wneud yn fawr ohono er lles ein Prifysgol a’i myfyrwyr, yn ogystal ag er mwyn Caerdydd, prifddinas greadigol Cymru.”

Yr Athro Stuart Allan Pennaeth yr Ysgol

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Mewn gwirionedd ni allaf ddychmygu partner gwell i fod yn ein hymyl ar y Sgwâr Canolog.  Mae'r ddau sefydliad yn rhannu’r fath ymrwymiad hirdymor i newyddiaduraeth a chreadigrwydd, ac mae’r ddau ohonynt yn cyflawni rôl hanfodol sydd wrth wraidd ein bywyd cenedlaethol...”

“Bydd y cyhoeddiad cyffrous heddiw yn ein galluogi i ddyfnhau ein partneriaeth – a gweithio gyda'n gilydd i hyfforddi a datblygu'r genhedlaeth nesaf o newyddiadurwyr a gweithwyr proffesiynol ym myd y cyfryngau."

Rhodri Talfan Davies Cyfarwyddwr BBC Cymru

'Gyfleusterau addysg o'r radd flaenaf'

Comisiynwyd y penseiri IBI i ddylunio cynllun a phatrwm mewnol yr Ysgol, a fydd yn cynnwys darlithfa 300 sedd, chwe ystafell newyddion, ystafelloedd golygu penodedig, stiwdios teledu a radio, lle ymchwil i ôl-raddedigion, llyfrgell a labordai ymgysylltu â rhanddeiliaid ac arloesi, ymhlith nodweddion eraill. Bydd Canolfan y Brifysgol ar gyfer Newyddiaduraeth Gymunedol hefyd yn symud i'r adeilad newydd.

Dywedodd y Pensaer Richard Golledge o grŵp IBI: 'Mae ein tîm Dysgu+ yn freintiedig o fod wedi cael eu dewis i ddylunio amgylchedd dysgu a fydd yn flaenllaw; rhywle a fydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o newyddiadurwyr cenedlaethol a rhyngwladol i lwyddo...”

“Fel penseiri lleol sy’n dylunio ystadau addysg blaenllaw yn fyd-eang, rydym yn falch o fod yn cyfrannu at yr enw da rhagorol sydd gan y ddinas a Phrifysgol Caerdydd am gyfleusterau addysg o'r radd flaenaf."

Richard Golledge Grŵp IBI

Dywedodd Paul McCarthy, Prif Weithredwr Rightacres Property, y cwmni tu ôl i ddatblygiad y Sgwâr Canolog: "Cydnabyddir Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd ar draws y byd fel un o'r prif sefydliadau ar gyfer addysgu’r cyfryngau, a bydd eu buddsoddiad mewn adeilad cyfadran newydd ar y Sgwâr Canolog, gan ymgorffori rhai o’r cyfleusterau technegol diweddaraf, yn rhoi proffil hynod amlwg i’r Brifysgol.

"Mae eu hymrwymiad i’r datblygiad yn sicrhau momentwm adeiladu parhaus i’r prosiect adfywio, ac yn darparu sylfaen ar gyfer nifer sylweddol o swyddi adeiladu yn y Sgwâr Canolog."

Dechreuodd y gwaith i greu aradeiledd Rhif 2 yn y Sgwâr Canolog ym mis Tachwedd 2016, ac mae camau cychwynnol cynllun a gwaith mewnol yr Ysgol i ddechrau ym mis Awst 2017. Mae’r Ysgol wedi’i lleoli yn Adeilad Bute yng nghanol y ddinas.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.