Ewch i’r prif gynnwys

‘Cyfnod arbennig' ar gyfer eclipsau

20 Chwefror 2017

Annular eclipse

Caiff eclips rhannol ysblennydd o'r haul yn hemisffer y de ei weld gan arbenigwr seryddol o Gymru sy'n pwysleisio ei bwysigrwydd i'r cyhoedd.

Dywed Dr Rhodri Evans, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, y bydd yr eclips a fydd yn effeithio ar rannau o Dde America a de Affrica ar 26 Chwefror yn un o'r mwyaf arwyddocaol yn y rhanbarth y ganrif hon.

Bydd yn egluro ei bwysigrwydd mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Namibia (NMAM) fel rhan o brosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd.

University of Namibia (Signage)

"Yr eclips hwn ar 26 Chwefror 2017 yw un o'r chwech mwyaf cyflawn o brifddinas Namibia, Wndhoek, yn ystod y ganrif hon," dywedodd.

"Gwelwyd nifer o eclipsau o Windhoek eisoes y ganrif hon, ond ar ôl yr un ym mis Mehefin 2001, dyma'r agosaf eto at amguddio'r haul yn llwyr."

Caiff yr haul ei amguddio hyd at 85% yng ngogledd Namibia, gyda'r olygfa orau o'r eclips i'w gweld mewn rhannau o Chile a'r Ariannin yn Ne America, ac Angola, Zambia a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn ne Affrica.

'Un o ryfeddodau mwyaf natur'

Dywedodd Dr Evans fod hwn yn "gyfnod arbennig" ar gyfer eclipsau'r haul, gyda chyfleoedd eraill i weld enghreifftiau godidog.

"Mae'n debygol mai'r un a fydd yn ysgubo ar draws cyfandir yr Unol Daleithiau ar 20 Awst eleni fydd yr eclips a gaiff ei wylio fwyaf drwy hanes, a'r unig un a allai gymharu yw'r un a ysgubodd ar draws cyfandir Ewrop yn 1999," dywedodd.

"Mae eclipsau'r haul yn un o ryfeddodau mwyaf natur..."

"Mae gweld dydd yn troi'n nos o fewn ychydig funudau, fel sy'n digwydd mewn eclips llawn, yn olygfa fydd yn aros gyda rhywun am weddill ei oes."

Dr Rhodri Evans

Bydd Namibia ei hun yn gweld eclips cyflawn ym mis Tachwedd 2030, gyda'r brifddinas Windhoek "yng nghanol llwybr yr eclips cyflawn".

Bydd rhaid i drigolion y DU aros gryn dipyn yn hirach. Fydd yr eclips rhannol 'dwfn' nesaf ddim yn digwydd tan fis Awst 2026, ac ni cheir eclips cyflawn tan fis Medi 2090.

Mae Dr Evans yn Namibia i baratoi'r tir ar gyfer cydweithio rhwng cyfadrannau Ffiseg/Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin.

Mae Prosiect Phoenix, sy'n cefnogi Rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia.

Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn cael ei alw'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.