Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr o Gaerdydd yn rhan o brosiect £4m i ddod o hyd i dechnolegau yfory

17 Chwefror 2017

Diamonds on computer display screen

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn ymuno â phrosiect £4m i ddatblygu technolegau sy'n cefnogi rhwydweithiau ffôn, y gofod a systemau amddiffyn yfory.

Arweinir y rhaglen bum mlynedd, a gyllidir gan Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), gan Brifysgol Bryste.

Bydd yn dod â Chaerdydd a thair prifysgol arall (Glasgow, Caergrawnt a Birmingham) yn ogystal â phartneriaid o fyd diwydiant at ei gilydd i ddatblygu technoleg y genhedlaeth nesaf sy'n braenaru'r tir ar gyfer rhwydweithiau ffôn 5G a 6G a systemau radar uwch.

iPhone showing internal components

Â'r fflwcs gwres ar wyneb yr haul

Bydd ymchwilwyr yn datblygu technoleg microdon gallium nitrid (GaN)-ar-ddiemwnt wrth i'r galw byd-eang am ddyfeisiau microdon pŵer uchel barhau i gynyddu.

Nod y prosiect yw datblygu transistorau symudedd-electron-uchel (neu HEMTS). Gall llif egni yn y rhain fod mor uchel â'r fflwcs gwres ar wyneb yr haul. Mae ymchwilwyr yn credu mai diemwnt - oherwydd ei ddargludedd thermol uchel iawn - yw'r deunydd gorau ar gyfer trin yr ynni sydd ei angen i yrru rhwydweithiau 5G a 6G.

Dywedodd yr Athro Paul Tasker o'r Ysgol Peirianneg, "Caiff datblygiad mawr mewn perfformiad transistorau GaN ei dargedu drwy fanteisio ar nodweddion trydanol rhagorol GaN a nodweddion thermol diemwnt...”

"Mae datblygiadau ym maes transistorau lled-ddargludol cyfansawdd yn sbarduno'r seilwaith technoleg sydd y tu ôl i'r Rhyngrwyd Pethau."

Yr Athro Paul Tasker Professor

Sefydlwyd Ffowndri Diemwnt Caerdydd, y grŵp mwyaf yn y DU ym maes tyfu diemwnt, gan yr Athro Oliver Williams, o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.

"Mae diemwnt heb ei ail o ran dargludedd thermol, ac mae ei wrthedd trydanol yn uchel hefyd...”

"Drwy gyfuno nodweddion thermol eithafol diemwnt â nodweddion trydanol ardderchog galiwm nitrad, mae gobaith y bydd paradeim newydd ym maes electroneg sy'n trin pŵer."

Yr Athro Oliver Williams

“Mae Ffowndri Diemwnt Caerdydd yn arbenigo mewn integreiddio diemwnt â deunyddiau eraill ar gyfer cymwysiadau newydd, ac felly mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd yn agos â'n prif weithgareddau."

Caiff mynediad cynnar gan ddiwydiant yn y DU at y dechnoleg ei gyflawni drwy gydweithio gyda'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS), canolfan ymchwil trosiannol ym Mhrifysgol Caerdydd a ddatblygwyd ar Gampws Arloesedd Caerdydd.

Mae ICS yn cydweithio'n agos gyda'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – cydfenter ddielw rhwng y gwneuthurwyr wafferi lled-ddargludol uwch IQE a Phrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Dr Wyn Meredith, o'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC): “Cenhadaeth CSC yw cefnogi ymchwil o ansawdd uchel yn y DU sy'n hynod o debygol o gael effaith ddramatig ar farchnadoedd neu gymwysiadau lled-ddargludyddion cyfansawdd...”

"Gwnaeth uchelgais y cynllun gwaith hwn argraff fawr arnom - ei nod yw creu newid sylweddol o ran gwella pŵer amledd radio o'i gymharu â thechnoleg cydrannau microdon gyfredol, sy'n elfen hanfodol ar gyfer galluogi cymwysiadau strategol mewn marchnadoedd amddiffyn, meddygol, cyfathrebu a'r gofod."

Dr Wyn Meredith Canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Yn ôl yr arbenigwyr dylai'r ymchwil helpu i greu dyfeisiau sydd â thros bum gwaith mwy o bŵer amledd radio o'i gymharu â'r transistorau masnachol sydd ar gael heddiw.

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.