Ewch i’r prif gynnwys

Cofnod o ddod o hyd i donnau disgyrchiant

14 Chwefror 2017

Gravitational waves
Mae gwyddonwyr LIGO wedi dod o hyd i signalau tonnau disgyrchiant yn sgil uniad dau dwll du.

Mae llyfr newydd gan yr Athro Harry Collins yn adrodd hanes un o'r darganfyddiadau gwyddonol mwyaf rhyfeddol erioed.

Flwyddyn ar ôl y cyhoeddiad bod tonnau disgyrchiant wedi eu canfod, mae Gravity's Kiss yn archwilio'r darganfyddiad gwreiddiol a'r digwyddiadau a wnaeth arwain at y cyhoeddiad ym mis Chwefror 2016.

Mae'r llyfr, sydd wedi'i gyhoeddi gan Wasg MIT, ar ffurf dyddiadur wythnosol dros y pum mis rhwng canfod y tonnau a'r cyhoeddiad. Hwn yw'r tro cyntaf y mae'r lefel hon o fanylder ynglŷn â'r darganfyddiad wedi'i gofnodi. Mae'r Athro Collins yn gwybod am yr holl drafodaethau mewnol, ac mae wedi gallu rhannu sgyrsiau nad ydynt wedi eu cyhoeddi'n flaenorol – gan gynnwys yr ebost cyntaf a anfonwyd ar ôl canfod y tonnau disgyrchiant.

Er bod gwaith blaenorol yr Athro Collins am y pwnc wedi canolbwyntio ar yr ymdrechion i ganfod tonnau disgyrchiant, dim ond ers mis Medi 2015 y mae'r Athro Collins wedi gallu cofnodi'r broses o ganfod y tonnau.

Ag yntau'n Gymdeithasegydd Gwyddoniaeth, mae'r Athro Harry Collins wedi bod yn rhan o'r gymuned tonnau disgyrchiant ers 1972, ac mae wedi ysgrifennu am gymdeithaseg ffiseg tonnau disgyrchiant ers dros 40 mlynedd.

Mae'r gymuned academaidd wedi canmol Gravity's Kiss am ei stori ddiffuant a manwl, a dathlwyd y llyfr gan Davide Castelvecchi mewn adolygiad diweddar.

Rhannu’r stori hon