Ewch i’r prif gynnwys

Gwaith gosod seiliau yn dechrau ar Gampws Arloesedd Caerdydd

10 Chwefror 2017

Ground prep at Innovation Campus

Mae gwaith gosod y seiliau ar Gampws Arloesedd Caerdydd wedi dechrau.

Mae’r adeiladwyr Kier Group plc yn cael gwared ar rwbel cyn i’r gwaith ddechrau ym mis Ebrill yn rhan o fuddsoddiad £135m yn nyfodol Prifysgol Caerdydd.

Roedd y safle tir llwyd ar Heol Maendy, Caerdydd, yn arfer bod yn iard rheilffordd.

Meddai Dev Biddlecombe, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau Campws Prifysgol Caerdydd: "Drwy glirio’r rwbel, bydd modd mynd ati yn y gwanwyn i osod y sylfeini ar gyfer dau adeilad pwysig fydd yn gartref i bedwar cyfleuster newydd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, busnes ac arloesedd.

"Mae’n rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar gampws Prifysgol Caerdydd ers cenhedlaeth. Bydd yn cynnig manteision i gymuned ehangach Heol Maendy gan gynnwys mannau agored cyhoeddus, rhwydwaith o lwybrau a phompren newydd dros y rheilffordd i'r gogledd o’r safle."

Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda Kier Group i greu Campws Arloesedd Caerdydd. Bydd yn cynnwys y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Sefydliad Catalysis Caerdydd, Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd (Spark) a Chanolfan Arloesedd.

Rhannu’r stori hon