Ewch i’r prif gynnwys

Canfyddiad annisgwyl yn datgelu targed therapiwtig posibl

15 Mehefin 2012

Discovery
The Bcl-2 protein and the calcium pump

Mae canfyddiad annisgwyl am sut mae'r corff yn rheoli'r broses o ladd celloedd wedi datgelu targed therapiwtig newydd posibl.

Mae tîm ymchwil yn Ysgol y Biowyddorau eisoes wedi datgelu sut y gall yfed gormod o alcohol achosi pancreatitis ac arwain at ganser pancreatig. Erbyn hyn, mae'r astudiaeth newydd hon a gyhoeddwyd yn Current Biology yn dangos am y tro cyntaf sut mae dau foleciwl amlwg yn rhyngweithio gan newid ein dealltwriaeth o lid a chanser yn y pancreas ac organau eraill.

Bu'r tîm yng Nghaerdydd yn astudio protein Bcl-2. Gwyddys eisoes fod y protein hwn yn gallu atal celloedd rhag marw mewn trefn ym mhob math o feinwe yn y corff. Mae marwolaeth celloedd yn hanfodol mewn datblygiad arferol ac, mewn rhai amgylchiadau, gall y protein hwn wneud i diwmor dyfu a hybu canser.

Dangosodd yr astudiaeth yng Nghaerdydd o gelloedd pancreas fod cael gwared ar brotein Bcl-2 wedi ysgogi moleciwl ym mhilen y gell sy'n pwmpio calsiwm allan o'r celloedd. Fel yr oedd y tîm wedi'i ddisgwyl, cafodd mwy o gelloedd eu lladd mewn trefn pan oedd lefel is o Bcl-2. Daeth hefyd i'r amlwg iddynt fod diffyg Bcl-2 yn cynnig llawer amddiffyniad yn erbyn ffurf arall o farwolaeth celloedd - necrosis. Mae hwn yn achosi i'r celloedd chwyddo a rhwygo gan ryddhau eu cynnwys ac achosi llid difrifol. Gwelodd y tîm fod yr amddiffyniad ychwanegol yn erbyn necrosis yn gysylltiedig yn uniongyrchol i gynyddu gweithgarwch y pwmp calsiwm.

Mae'r tîm, o dan arweiniad Dr Oleg Gerasimenko a'r Athro Ole Petersen o'r Cyngor Ymchwil Feddygol, yn credu y gallai rhwystro effaith Bcl-2 ar y pwmp calsiwm, er mwyn i'r pwmp fod yn fwy gweithgar, gynnig therapi yn erbyn necrosis a'r llid peryglus dilynol. Mae hyn yn bwysig gan fod necrosis yn y celloedd pancreatig sy'n cynhyrchu ensymau, a achosir yn aml gan yfed gormod o alcohol, yn cynyddu'r risg o ganser pancreatig yn sylweddol. Dyma'r pedwerydd achos amlycaf o farwolaethau canser yn Ewrop ac America gyda dim ond 4 y cant yn goroesi am bum mlynedd.

Meddai'r Athro Petersen, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Ysgol y Biowyddorau: "Mae'r canfyddiadau newydd yn seiliedig ar astudiaethau o gelloedd pancreatig. Rydym wedi canfod cysylltiad cwbl annisgwyl rhwng dau foleciwl amlwg a allai gael eu targedu er mwyn trin pancreatitis a datblygiad peryglus pancreatitis i ganser pancreatig. Fodd bynnag, bydd ein canfyddiadau hefyd yn bwysig yn gyffredinol yn ôl pob tebyg. Mae'r protein sy'n rhwystro celloedd rhag marw mewn trefn, sef Bcl-2, a'r pwmp calsiwm ym mhilen y gell i'w canfod ym mhob math o gelloedd yn ein corff. Gall y rhyngweithio rhwng y naill a'r llall fod yn bwysig wrth benderfynu beth fydd ffawd celloedd mewn llawer o wahanol organau yn ogystal â'r llid a'r gwahanol fathau o ganser a ddatblygir."

Y Cyngor Ymchwil Feddygol ac Ymddiriedolaeth Wellcome a ariannodd yr ymchwil. Yr astudiaeth hon yw canlyniad pendant cyntaf y cydweithrediad newydd rhwng Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd a Choleg Meddygaeth Prifysgol Jinan yn Guangzhou, Tsieina.

Rhannu’r stori hon