Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu Cemeg Organig

21 Mehefin 2012

Celebration of Organic Chemistry
O’r chwith i’r dde yn y symposiwm dathlu mae’r Athro Akira Suzuki (Prifysgol Hokkaido, Siapan), yr Athro Keith Smith (Prifysgol Caerdydd) a’r Athro Ei-ichi Negishi (Prifysgol Purdue, UDA).

Bu dau enillydd Gwobr Nobel yn annerch symposiwm undydd arbennig i ddathlu cyfraniad cemeg organig i gymdeithas.

Trefnwyd y digwyddiad gan yr Ysgol Gemeg i ddynodi gyrfa'r Athro Keith Smith, a fydd yn ymddeol cyn diwedd y flwyddyn. Bu gan yr Athro Smith gysylltiad proffesiynol â'r rhan fwyaf o'r siaradwyr.

Siaradodd yr Athro Akira Suzuki (Prifysgol Hokkaido, Siapan), a rannodd Wobr Nobel am Gemeg yn 2010, am ddarganfod yr adwaith sy'n dwyn ei enw ac sydd wedi gwella ansawdd bywydau ar ôl cael ei fabwysiadu'n helaeth gan y diwydiant fferyllol. Bu'r Athro Ei-Ichi Negishi (Prifysgol Purdue, UDA), un arall a dderbyniodd Wobr Nobel am Gemeg yn 2010, yn trafod gwaith ei grŵp ym meysydd traws-gyplu â chatalydd paladiwm a charbo-alwminadu â chatalydd sirconiwm.

Roedd y cyflwyniadau eraill yn cynnwys defnyddio haenen denau o hydrogel ar gyfer synhwyro glwcos a chemeg ocsideiddiad i drin dŵr gwastraff. Bu Dr Mark Elliott o'r Ysgol Gemeg yn trafod ei waith yn cymhwyso adweithiau anghymesuro wrth baratoi cyfansoddion â chreiddiau stereo cwaternaidd.

Trefnwyd y symposiwm gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ar y cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru a'r Ysgol Gemeg. Dilynwyd y digwyddiad gan ginio preifat yng Ngwesty Dewi Sant wedi'i drefnu gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol. Ymhlith y gwyddonwyr blaenllaw a oedd yn bresennol roedd y Prif Gynghorydd Gwyddonol i Gymru, yr Athro John Harries; Llywydd Prifysgol Caerdydd, yr Athro Syr Martin Evans a Llywydd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, yr Athro David Phillips.

Rhannu’r stori hon