Ewch i’r prif gynnwys

Dadorchuddio canolfan ymchwil newydd ar gyfer arthritis

11 Mehefin 2012

Bydd Canolfan Triniaeth Arbrofol Arthritis, Ymchwil Arthritis y DU (CREATE), sydd wedi ei lleoli yn Ysgol Meddygaeth y Brifysgol, yn gweithio ochr yn ochr â chleifion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Bydd y cleifion yn gwirfoddoli i brofi cyffuriau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cyflyrau eraill i helpu trin tua 50 o gleifion de Cymru sy'n dioddef o arthritis gwynegol neu arthritis psoriatig.

Gyda chronfa gychwynnol werth £115,000 gan yr elusen ymchwil feddygol Ymchwil Arthritis y DU dros y tair blynedd nesaf ac arian ychwanegol gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR) a Phrifysgol Caerdydd, bydd y ganolfan hefyd yn ceisio datblygu profion labordy newydd a fydd yn pennu'r therapi mwyaf priodol ar gyfer cleifion unigol.

Mae arthritis gwynegol ac arthritis psoriatig yn gyflyrau llidiol cronig ar y cymalau sy'n golygu poen, anabledd, niwed i'r cymalau ac ansawdd bywyd is.

Mae rheolaeth dros y cyflyrau hyn wedi gwella'n sylweddol gyda dyfodiad dosbarth newydd o gyffuriau biolegol, sef therapi gwrth-TNF, a gafodd eu harloesi a'u datblygu gan wyddonwyr Ymchwil Arthritis y DU.

Mae cael a chynnal gwellhad dros dro yn dal yn nod i lawer o'r ymchwilwyr, a chanfuwyd ei fod yn bwysig i atal niwed i'r cymalau. Fodd bynnag, amcangyfrifir bod canran y cleifion sy'n cyrraedd gwellhad dros dro mewn ymarfer clinigol yn llai na 30 y cant.

"Ein nod yw gwella canlyniadau arthritis gwynegol a psoriatig drwy ddatblygu a phrofi triniaethau newydd, yn enwedig y rhai hynny sydd â'r potensial i rwystro'r clefydau hyn a'u hatal rhag datblygu; ac o ganlyniad graddfeydd uwch o wellhad o'r clefyd dros dro," esboniodd y prif ymchwiliwr, ac Athro Rhewmatoleg yr Ysgol Feddygaeth, Ernest Choy.

Prosiect cyntaf yr Athro Choy a'i dîm fydd profi cyffur sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer clefyd llid y coluddyn ar gleifion sydd wedi methu ymateb i therapïau gwrth-TNF.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Ymchwil Arthritis y DU, sef yr Athro Alan Silman: "Mae yna wir angen i gynnal profion trylwyr o fuddion a diogelwch cyffuriau newydd mewn nifer fechan o gleifion cyn y gellir dechrau ar dreialon ar raddfa fawr, a bydd ein canolfannau triniaeth arbrofol newydd ar gyfer arthritis yn darparu'r adnoddau i astudio cleifion yn yr astudiaethau cam cyntaf allweddol hyn."

Rhannu’r stori hon