Ewch i’r prif gynnwys

Gyrru ymlaen ymchwil ar gerbydau trydanol

27 Mehefin 2012

Electric car
Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gyda’r Athro Karen Holford, Cyfarwyddwr Ysgol Beirianneg Caerdydd, a Dr Paul Nieuwenhuis, Ysgol Fusnes Caerdydd, yn un o’r cerbydau trydan sy’n cael eu harddangos yn y Brifysgol.

Mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer creu Canolfan Ragoriaeth ar Gerbydau Trydan amlddisgyblaethol gyntaf y DU.

Bydd yr Ysgol Beirianneg ac Ysgol Fusnes Caerdydd yn cydweithio, a bydd y Ganolfan yn ymchwilio i bob agwedd ar gerbydau trydan gan gynnwys dylunio a gweithgynhyrchu; modelau busnes arloesol; disgwyliadau a chymhelliant defnyddwyr; cyflenwi ynni; a seilwaith codi tâl.

Bydd defnyddio dull amlddisgyblaethol ar gyfer ymchwil a gaiff ei chynnal yn y Ganolfan yn unigryw mewn sawl ffordd. Un enghraifft fydd gallu ymchwilwyr i gysylltu persbectif cerbydau â'r materion yn ymwneud â chynhyrchu trydan. Mae cerbydau trydan mor wyrdd â'r trydan sy'n eu pweru'n unig, ac mae'r potensial y gall cerbydau trydan storio trydan gwyrdd a'i fwydo'n ôl i'r grid pan fydd y gwynt yn gostegu neu'r haul yn peidio â disgleirio yn opsiwn deniadol ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Karen Holford, Cyfarwyddwr Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd: "Gyda'n gilydd, rydym yn hyderus fod gan Ysgol Fusnes Caerdydd ac Ysgol Beirianneg Caerdydd yr arbenigedd a'r adnoddau i wneud cyfraniad sylweddol i ymchwil i'r rhwystrau yn erbyn defnydd ehangach o gerbydau trydan."

Caiff y cyhoeddiad ynghylch y Ganolfan newydd ei wneud i gynulleidfa o arbenigwyr moduro byd-eang o'r byd academaidd, byd busnes a'r sector cyhoeddus yn yr Uwchgynhadledd Cerbydau Trydan sy'n cael ei chynnal yr wythnos hon yn y Brifysgol (dydd Mercher 27 Mehefin).

Agorir yr uwchgynhadledd gan y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, a bydd yn rhoi llwyfan i alluogi arbenigwyr yn y diwydiant i rannu a chyfnewid gwybodaeth gyda busnesau, ysgolheigion a llunwyr polisïau ar lefel fyd-eang.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd y Prif Weinidog: "Mae'n hanfodol ein bod yn lleihau allyriadau a gynhyrchir gan y sector trafnidiaeth a bydd cerbydau trydan yn chwarae rhan allweddol yn hyn. Mae heriau'n ein hwynebu, gan gynnwys derbyniad y ceir ymhlith y cyhoedd a datblygu'r dechnoleg ymhellach, ond mae'r dechnoleg hon yn cynrychioli'r dyfodol.

"Mae gan lansiad y ganolfan newydd hon, y gyntaf o'i math yn y DU, rôl bwysig i'w chwarae wrth ddatblygu arloesedd pellach mewn cerbydau trydan. Bydd yn gwella gallu Cymru i gyfrannu'n sylweddol at ddatblygu cerbydau carbon isel, trwy ymchwil a datblygu, a thrwy ddatblygu cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi."

Dywedodd Dr Paul Nieuwenhuis o Ysgol Fusnes Caerdydd: "Yn hanesyddol, mae ymchwil ym maes Cerbydau Trydan wedi canolbwyntio ar faterion technolegol ar wahân. Mae cyhoeddi creu Canolfan Cerbydau Trydan amlddisgyblaethol newydd a chynnal yr Uwchgynhadledd Cerbydau Trydan yn dangos cryfder, ansawdd ac ymrwymiad ymchwil ar y cyd ym maes trafnidiaeth gynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd."

Trefnwyd yr Uwchgynhadledd Cerbydau Trydan gan y Ganolfan Cysylltiadau Busnes, Atebolrwydd, Cynaliadwyedd a Chymdeithas (BRASS) ac ENEVATE. Mae BRASS yn ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Caerdydd a gaiff ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) sy'n cyfuno arbenigedd o'r Ysgol Fusnes, Ysgol y Gyfraith a'r Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol. Mae'r ganolfan yn cynnal ymchwil ryngddisgyblaethol o ansawdd uchel yn y gwyddorau cymdeithasol, ac mae'n ymgysylltu â defnyddwyr ymchwil i greu gwybodaeth ac offer a fydd yn hyrwyddo cydberthnasoedd mwy cynaliadwy ymhlith rhanddeiliaid o fewn busnesau, cymdeithas a'r amgylchedd. www.brass.caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon