Ewch i’r prif gynnwys

Llwyfan newydd ar gyfer arbenigedd operatig

29 Mehefin 2012

Opera theatre

Mae llwyfan newydd wedi'i sefydlu ar gyfer cydweithio rhyngddisgyblaethol mewn ymchwil opera o fewn yn ogystal â thu hwnt i'r Brifysgol.

Lansiwyd Ymchwil Rhyngddisgyblaethol mewn Opera Caerdydd (CIRO) yn swyddogol yng nghynhadledd Love to Death: Transforming Opera yr Ysgol Gerdd a gynhaliwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar y cyd â'r Gymdeithas Gerdd Frenhinol.

Dywedodd yr Athro Rachel Cowgill o'r Ysgol Gerdd: "Mae CIRO yn ffordd gyffrous o ddod â gwahanol feysydd o arbenigedd operatig ynghyd o fewn yr Ysgol Gerdd ac ystod o ysgolion academaidd eraill yng Nghaerdydd. Hefyd bydd yn ffordd ffrwythlon o barhau a datblygu ymhellach ein cydweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr Cerdd Cymru a chyrff allanol cysylltiedig eraill."

Mae CIRO yn bwriadu cynnal rhaglen o ddigwyddiadau bob blwyddyn, gan gynnwys seminarau (gyda siaradwyr cartref, siaradwyr sy'n ymweld a siaradwyr rhyngwladol), gweithdai, sesiynau darllen, a thrafodaethau panel. Bydd dod ag amrywiaeth mor eang o arbenigeddau ynghyd yn cyfoethogi gwaith unigol yn ogystal ag arwain at gyhoeddiadau, gwaith creadigol newydd, a cheisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau ymchwil aml- a rhyngddisgyblaethol.

Daw aelodau CIRO o Ysgolion Cerdd, Gwyddorau Cymdeithasol, Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Seicoleg, ac Ieithoedd Ewropeaidd, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth. Mae'r sefydliadau allanol a gaiff eu cynrychioli'n cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr Cerdd Cymru, DARE (partneriaeth rhwng Opera North a Phrifysgol Leeds), ac Opera'r Ddraig.

Rhannu’r stori hon