Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn cefnogi BioCymru 2017

6 Chwefror 2017

Speakers at BioWales

Mae Prifysgol Caerdydd wedi'i chadarnhau fel prif noddwr BioCymru 2017 - prif ddigwyddiad sector y gwyddorau bywyd yng Nghymru.

Mae un o arddangosfeydd mwyaf blaenllaw y DU ym maes y gwyddorau bywyd, BioCymru, yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ar 7-8 Mawrth 2017.

Thema digwyddiad eleni yw Iechyd a Chyfoeth, lle mae cyfleoedd unigryw ym meysydd Therapi Celloedd, Meddygaeth Adfywiol a Thechnoleg Feddygol yn grymuso cleifion a gweithwyr proffesiynol drwy wasanaethau a gwybodaeth well ar raddfa fyd-eang.

'Mae gwyddoniaeth yn sail i arloesedd'

Dywedodd Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Llywodraeth Cymru: "BioCymru yw'r prif ddigwyddiad ar gyfer y gwyddorau bywyd yng Nghymru, ac mae'n un o gynadleddau biodechnoleg pwysicaf y DU, ac rwy'n falch bod Prifysgol Caerdydd wedi penderfynu cefnogi'r digwyddiad mawreddog hwn..."

"Mae gwyddoniaeth yn sail i arloesedd ac mae Prifysgol Caerdydd, fel un o'r pum prifysgol orau yn y DU ar gyfer rhagoriaeth ymchwil, yn parhau i ysgogi gwelliannau ar draws y sector gwyddorau bywyd, ac yn helpu i gynnig gofal gwell i gleifion drwy ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau gwell."

Julie James AC Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Llywodraeth Cymru

Meddai'r Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd: "Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o un o gynadleddau gwyddorau bywyd mwyaf blaenllaw'r DU a gynhelir yng Nghymru. Bydd y digwyddiad yn denu cynulleidfa ryngwladol ac yn gyfle euraidd i ni arddangos ein harloesedd mewn gwyddorau bywyd a pharhau i feithrin cysylltiadau pwysig â busnes a diwydiant..."

"Mae'r Brifysgol yn 'Ganolfan Rhagoriaeth' mewn rhwydwaith o ganolfannau sy'n datblygu meddygaeth fanwl. Dyma gydnabyddiaeth bellach o'n harbenigedd mewn ymchwilio a datblygu technolegau meddygol ar gyfer sector gofal iechyd y DU."

Yr Athro Dylan Jones Pro Vice-Chancellor, College of Biomedical and Life Sciences

'Diwylliant ymchwil arloesol sy'n ffynnu'

Mae'r digwyddiad, a gaiff ei gynnal am y 15fed tro eleni, yn adeiladu ar gryfder cydweithredol Cymru. Mae'n dwyn ynghyd arbenigwyr y diwydiant, buddsoddwyr mewn gwyddorau bywyd a rhwydweithiau rhyngwladol, ac mae'n canolbwyntio ar ryngweithio rhwng busnes, y byd academaidd a gofal iechyd.

Yn ôl yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd: "Mae gennym ddiwylliant ymchwil arloesol sy'n ffynnu ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n cysylltu ein hacademyddion â diwydiant, busnesau, llywodraeth a'r trydydd sector yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt..."

"Mae digwyddiadau fel BioCymru yn cefnogi System Arloesedd Caerdydd. Ein gweledigaeth yw creu ffyniant economaidd a chymdeithasol drwy gynnig mannau lle gall pobl weithio mewn partneriaeth i droi syniadau a datblygiadau arloesol yn gynhyrchion, technolegau, cwmnïau deillio a busnesau newydd."

Yr Athro Hywel Thomas Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.