Ewch i’r prif gynnwys

BRIT Challenge

2 Hydref 2012

BRIT Challenge

Mae cyn-filwr a ddioddefodd niwed i linyn ei gefn wrth wasanaethu yn Irac wedi ymweld â'r Brifysgol fel rhan o her codi arian i gynorthwyo plant sy'n wynebu adfyd yn y DG.

Cyrhaeddodd Phil Packer MBE Gaerdydd ddydd Mawrth 2 Hydref 2012 fel rhan o'i daith Her Brydeinig/ BRIT Challenge arwrol. Ar ôl cwblhau 1600 o filltiroedd yn barod, cerddodd Phil am chwe milltir o amgylch Campws Cathays y Brifysgol yng nghwmni staff a myfyrwyr.

Nod yr her yw gwneud pobl yn fwy ymwybodol o elusen Phil, sef yr British Inspiration Trust a chodi £15M i adeiladu BRIT Centre of Inspiration ar gyfer pobl ifainc mewn angen.

Yn dilyn ei anaf yn 2008, dywedwyd wrtho ei bod yn annhebygol y byddai'n gallu cerdded eto. Felly, mae cerdded 8 i 10 milltir iddo ef yn cyfateb i farathon ar gyfer person heb anaf i linyn ei gefn. Ymunwyd â Phil yn ystod ei daith gerdded gan y cystadleuwyr a gyrhaeddodd rownd derfynol Her Ffynnu y Brifysgol, ynghyd â Stuart Vanstone, Pennaeth Chwaraeon yng Nghaerdydd; yr Athro Patricia Price, y Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Profiad a Safonau Academaidd Myfyrwyr; Yr Arglwydd Raglaw, Dr Peter Beck; a Harry Newman, Llywydd Undeb y Myfyrwyr Caerdydd.

BRIT

Wrth sôn am ei her, dywedodd Phil: "Yn ystod fy ngwaith yn cefnogi elusennau eraill dros y pedair blynedd diwethaf ac wrth gyfarfod â phobl Phil Packer Coffee175ifainc sy'n wynebu adfyd, sylweddolais bwysigrwydd adennill hunanhyder a hunanwerth. Mae'r heriau meddyliol a seicolegol o wynebu adfyd yn enfawr, ac mae cyfarfod â phobl i'w hedmygu a dilyn eu hesiampl ac sy'n barod i dreulio amser gyda phobl ifainc yn gam pwysig tuag at orchfygu adfyd. Rwyf am sefydlu canolfan a fydd yn gwasanaethu pobl ifainc ac a fydd yn dod ag elusennau a'u harferion da at ei gilydd, er mwyn helpu ein hieuenctid i benderfynu beth maen nhw eisiau ei gyflawni a sut mae gwneud hynny."

Mae Phil yn teithio trwy leoliadau a gafodd eu dewis gan bobl ifainc ym mhob sir yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon – ynghyd â Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw. Ar hyd y daith mae'n cyfarfod â phobl ifainc sy'n wynebu adfyd corfforol a meddyliol, o grwpiau ac elusennau cymunedol, ynghyd â phobl ifainc o ysgolion, colegau a phrifysgolion sy'n ymuno ag ef mewn lleoliadau penodol.

Team for BRIT challenge

Ar ôl cerdded o amgylch Campws Cathays a phrofi prysurdeb bywyd Prifysgol, arhosodd Phil am ychydig i fwynhau paned o goffi, ac yng nghwmni'r Pennaeth Chwaraeon, bu Phil yn sôn am ei heriau a'i brofiadau yn y gorffennol.

Wedyn roedd yn bryd cerdded unwaith eto i orffen Diwrnod 254 o'i her, gyda 410 milltir ar ôl!

Rhannu’r stori hon