Ewch i’r prif gynnwys

Bydd Wyrdd

3 Hydref 2012

Go Green

Mae dau fyfyriwr o Gaerdydd yn annog pobl y brifddinas i fod yn wyrdd yn ystod mis Hydref.

Mae Philippa Reid a Siobhan McGovern wedi dod yn 'Gymhellwyr Gwyrddni' i'r elusen Maint Cymru ac maen nhw'n helpu i godi ymwybyddiaeth o waith yr elusen ac yn codi arian fel rhan o ddiwrnod Bydd Wyrdd ar 19 Hydref 2012.

Dywedodd Philippa, sy'n fyfyriwr yn yr Ysgol Ieithoedd Ewropeaidd, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth ac yn aelod o Gymdeithas Ffasiwn Undeb y Myfyrwyr: "Ar 19 Hydref, ynghyd ag aelodau eraill o'r Gymdeithas Ffasiwn, byddwn yn cynnal Te Parti Bydd Wyrdd yng Nghaffe'r Milgi ar Heol y Ddinas. Rydym yn annog pawb o Gaerdydd i ddod mewn gwisgoedd gwyrdd ffasiynol i fwynhau te a danteithion â thema werdd. Gobeithiwn godi arian trwy ein raffl a thrwy werthu strapiau arddwrn a bydd gennym flychau casglu o amgylch adeiladau'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

"Yn yr wythnosau ar ôl Diwrnod Bydd Wyrdd rydym yn cynnal ein sioe ffasiwn ein hunain yn Undeb y Myfyrwyr er budd Maint Cymru. Bydd dillad sydd wedi hen ennill eu plwyf ynghyd â'r ffasiwn ddiweddaraf yn cael eu harddangos. Byddwn ni ein hunain yn arddangos y dillad cynaliadwy sy'n cael eu creu gennym allan o nwyddau wedi'u hailgylchu."

Nod Maint Cymru yw ceisio diogelu arwynebedd o goedwig drofannol sydd o'r un maint â Chymru, gan obeithio y bydd gwledydd eraill yn dilyn ein hesiampl. Bydd yr arian a godir gan Gaerdydd yn helpu i ariannu amrediad o weithgareddau a fydd yn diogelu'r fforestydd glaw ac yn cynorthwyo'r brodorion Wapichan yn Gaiana i gael hawl cyfreithiol dros eu fforestydd a datblygu cynlluniau cadwraeth ar gyfer arwynebedd o fforest law o'r un maint ag ardaloedd Cathays a'r Rhath gyda'i gilydd.

Dewiswyd prosiect Wapichan yn Bartner Fforest i'r Brifysgol gan staff a myfyrwyr fel rhan o Wythnos Gynaladwyedd y Brifysgol yn 2011. Eleni, mae'r Wythnos Gynaladwyedd yn rhedeg o 29 Hydref tan 2 Tachwedd a bydd yn cynnwys anerchiadau, arddangosfeydd, a llawer mwy y gall y Brifysgol gyfan gyfranogi ynddo.

Rhannu’r stori hon