Ewch i’r prif gynnwys

“Un o’r goreuon ym Mhrydain”

8 Hydref 2012

group of students

Mae Caerdydd wedi ennill rhagor o gydnabyddiaeth fel un o'r 20 o Brifysgolion gorau yn y DU ac mae hi ar y rhestr fer ar gyfer y teitl Prifysgol y Flwyddyn yng Nghanllaw'r Sunday Times i Brifysgolion 2013. Hefyd cadwodd ei safle'n rhwydd fel y brifysgol orau yng Nghymru.

Mae'r Canllaw yn cyfeirio'n benodol at gyflogadwyedd cryf graddedigion Caerdydd, gan nodi: "mae gan y cadarnle hwn o ragoriaeth academaidd ac ymchwil un o'r cyfraddau gorau o ran cyflogi graddedigion ym Mhrydain. Nid yw myfyrwyr yn cael unrhyw swydd ychwaith – mae'r rhan fwyaf yn ennill swyddi lefel gradd sydd â chyflogau cychwynnol da."

Dywedodd Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr Israddedig, David Roylance: "Mae'n foddhaol i Gaerdydd, unwaith eto, gael ei chydnabod fel un o brifysgolion mwyaf blaenllaw'r DU - yn enwedig gan ein bod wedi cofnodi ein lefel uchaf erioed o ran boddhad myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS)."

"Mae bob amser groeso i gydnabyddiaeth gyhoeddus o'n cyflawniadau ond rydym yn bell o fod yn hunanfodlon. Rydym yn parhau i weithio i sicrhau profiad o ansawdd da ar gyfer ein holl fyfyrwyr."

Mae'r canllaw blynyddol yn gynnig pwynt cyfeirio i fyfyrwyr a'u rhieni ar y ffordd i ddod o hyd i le mewn prifysgol.

Llunnir ei "dabl cynghrair" o feini prawf sy'n cynnwys boddhad myfyrwyr, ansawdd addysgu ac ymchwil, cymwysterau mynediad a ddelir gan fyfyrwyr newydd, canlyniadau graddau a gyflawnwyd, cymarebau myfyrwyr/staff, lefelau diweithdra graddedigion a chyfraddau cadw myfyrwyr.

Dywedodd Alastair McCall, Golygydd Canllaw'r Sunday Times i Brifysgolion: "Mae ein tabl cynghrair yn gwobrwyo'r prifysgolion hynny sydd wedi canolbwyntio'n helaeth ar ddarparu addysgu o'r radd flaenaf, gydag adborth prydlon a defnyddiol am waith ac asesiadau'r myfyrwyr.

"Os yw prifysgol yn darparu profiad gwych fel myfyriwr, os gall gynnig rhagolygon da o ran swyddi i raddedigion, yn ogystal â hanes cadarn ar gyfer cwblhau graddau a deilliannau, bydd uchel-raddau a myfyrwyr da yn dilyn."

Llunnir Canllaw'r Sunday Times i Brifysgolion 2013 gan ddefnyddio data gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (Hesa) ar gyfer y flwyddyn academaidd 2010-11, Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2012, y cynghorau cyllido cenedlaethol, a chan 126 o brifysgolion.

Rhannu’r stori hon