Ewch i’r prif gynnwys

Chwalu Rhwystrau

22 Hydref 2012

Breaking down barriers

Gan mai pobl ifanc yn gadael gofal yw un o'r grwpiau sydd wedi'i dangynrychioli fwyaf yn addysg uwch, mae'r Brifysgol yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i helpu i chwalu rhwystrau ac ysbrydoli'r bobl ifanc hyn i ystyried dyfodol mewn addysg uwch.

Yn 2011, roedd mwy na 5,000 o blant a phobl ifanc y gofelir amdanynt yng Nghymru, sy'n godiad o bump y cant ar y flwyddyn flaenorol ac 20 y cant dros y pum mlynedd diwethaf. Mae ymchwil hefyd wedi dangos mai dim ond saith y cant o bobl sy'n gadael gofal yn 19 oed sy'n mynd i'r brifysgol, o'i gymharu â 43 y cant o bobl ifanc yn gyffredinol.

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r cyfranogiad isel ymhlith y grŵp hwn, mae gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, tiwtoriaid derbyn a phobl ifanc yn dod at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithdai a sesiynau gwybodaeth er mwyn iddynt gael gwybod sut i agor rhagor o ddrysau at addysg uwch ar gyfer pobl sy'n gadael gofal.

Er mwyn dathlu diwrnod cyntaf Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal 2012 (24 Hydref), bydd y Brifysgol yn cysylltu â Rhwydwaith Maethu Cymru er mwyn cynnig i ofalwyr maeth a'r bobl ifanc yn eu gofal y cyfle i gael gwybod rhagor am sut y gall addysg uwch weithio iddynt. Hefyd bydd y digwyddiad yn cynnwys lansiad 'Canllaw Gofalwr Maeth i Ysbrydoli a Chefnogi Ymadwyr Gofal i fynd i Addysg Uwch'. Mae'r pecyn cymorth, a ddatblygwyd gyda chymorth Prifysgol Caerdydd, ar gyfer gofalwyr maeth sydd mewn sefyllfa i gefnogi ac annog unigolyn ifanc mewn gofal sy'n ystyried gwneud cais, neu sydd wedi gwneud cais yn ddiweddar i astudio yn y brifysgol.

Dywedodd Freda Lewis, cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru: "Mae gofalwyr maeth yn chwarae rôl hanfodol o ran codi dyheadau pobl ifanc o oedran cynnar. Y gobaith yw y bydd y canllaw hwn yn eu hysbrydoli i fod yn uchelgeisiol ar ran y plant maent yn gofalu amdanynt, ac i'r plant a'r bobl ifanc eu hunain gredu y gallant gyflawni. Ni ddylai bod mewn gofal fod yn rhwystr rhag mynd i'r brifysgol.

"Mae gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd yn ein galluogi i gynnig y gefnogaeth ymarferol orau i'r rhai sydd ei hangen. Mae gofalwyr maeth, y Rhwydwaith Maethu, y brifysgol ac yn fwyaf oll y bobl ifanc yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau mai ystrydeb sy'n edwino yw'r syniad nad yw pobl ifanc a oedd mewn gofal yn ffynnu mewn addysg uwch."

Ddydd Iau (25 Hydref), bydd y Brifysgol hefyd yn lansio'r Prosiect Dyfodol Hyderus.

Wedi'i anelu at bobl ifanc 14-19 oed mewn gofal, mae'r prosiect yn estyniad o'r cynllun mentora presennol ar gyfer pobl ifanc mewn gofal. Bydd y cwrs, sy'n seiliedig ar sgiliau ar gyfer plant y gofelir amdanynt a rhai sy'n gadael gofal, a ddatblygwyd ar y cyd gyda Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd y Brifysgol, yn cael ei gynnal bob pythefnos am saith mis ac yn darparu: mentora; diwrnodau blasu; cefnogaeth gyda cheisiadau, CVs a gwaith ysgol; a phrofiad uniongyrchol o fywyd yn y brifysgol.

Dywedodd Einir Evans, Swyddog Cyswllt Allweddol y Brifysgol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal: "Mae addysg yn rhan bwysig o fywydau pobl ifanc, ac eto pobl ifanc sy'n gadael gofal yw un o'r grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli fwyaf mewn addysg bellach ac uwch yn y DU. Heb gymorth teulu, ac yn aml yn ei chael yn anodd cael digon o arian a lle i fyw, rydym yn cydnabod bod cael mynediad at addysg a llwyddo yn gyflawniad go iawn.

"Ni oedd un o'r prifysgolion cyntaf yng Nghymru i ennill Nod Ansawdd Buttle UK, a gwnaethom ymrwymo i ehangu mynediad ymhlith pobl ifanc sy'n gadael gofal. Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn yn codi ymwybyddiaeth o'r rhwystrau y gall y rhai sy'n gadael gofal eu hwynebu'n aml ac, yr un mor bwysig, yn annog ac ysbrydoli pobl a fu mewn gofal i ystyried addysg yn y brifysgol fel posibilrwydd go iawn."

Hefyd yn digwydd yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal fydd digwyddiad holi ac ateb ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal (Dydd Iau 25 Hydref). Wedi'i gynnal ar y cyd rhwng Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Voices from Care, bydd gan bobl sy'n gadael gofal ledled Cymru y cyfle i ofyn cwestiynau'n uniongyrchol i wleidyddion ac aelodau eraill o'r panel. Bydd pobl sy'n gadael gofal yn gallu mynegi eu barn am eu profiadau a dylanwadu ar flaenoriaethau'r dyfodol ar gyfer Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill. Mae'r panel yn cynnwys Aelodau'r Cynulliad; Ken Skates, Jenny Rathbone, David Melding a Mark Drakeford, Comisiynydd Plant Cymru Keith Towler, Freda Lewis; Prif Swyddog Gweithredol y Rhwydwaith Maethu a Lydia Llewellyn; Cadeirydd y Fforwm Ymadawyr Gofal.

A wyddech chi

  • Pobl ifanc sy'n gadael gofal yw un o'r grwpiau a dangynrychiolir fwyaf yn addysg uwch yn y DU. Mae Cyfarwyddiaeth Ystadegau Cymru yn dweud bod 7% o bobl sy'n gadael gofal yn 19 oed mewn addysg uwch amser llawn yn 2011, o'i gymharu â 43% o bobl ifanc yn gyffredinol.
  • Prifysgol Caerdydd oedd un o'r prifysgolion cyntaf yng Nghymru i ennill Nod Ansawdd Buttle UK yn 2007. Llwyddodd y Brifysgol i adnewyddu ei chais am y nod ansawdd yn 2010 ac mae wedi ymrwymo i'w adnewyddu eto yn 2013.
  • Dyfarnwyd y nod ansawdd i'r Brifysgol er mwyn cydnabod ei hymrwymiad i annog pobl ifanc mewn gofal i astudio ym maes addysg uwch ac mae pecynnau cymorth helaeth ar gael os byddant yn dewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
  • Mae Ehangu Mynediad yn mynd i'r afael â recriwtio, cadw a dilyniant myfyrwyr o ystod eang o grwpiau a dangynrychiolir yn draddodiadol mewn addysg uwch. Mae'r rhain yn cynnwys pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, o gymunedau o dan anfantais, pobl ag anableddau a'r rhai o deuluoedd nad oes ganddynt brofiad blaenorol o addysg uwch.

Rhannu’r stori hon