Ewch i’r prif gynnwys

Datrys dirgelion y meddwl a mater

6 Chwefror 2017

Light bulb signifying idea

Mae dau brosiect ymchwil gwahanol iawn ym Mhrifysgol Caerdydd wedi sicrhau cyllid yr UE i helpu i ddatrys dirgelion nad ydym yn eu deall yn dda sy'n effeithio ar ein planed a'r meddwl dynol.

Mae gwyddonwyr wedi cael Grantiau Cyngor Ymchwil Ewropeaidd o fri sy’n werth €3m i daflu goleuni newydd ar ddaeargrynfeydd a gwneud penderfyniadau dynol.

Dyma’r cyllid diweddaraf a gafwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd fel rhan o Horizon 2020, rhaglen ymchwil ac arloesi blaenllaw’r UE.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi mwynhau cryn dipyn o lwyddiant wrth ymgeisio am gyllid yr UE, ac mae academyddion yn cael eu hannog i barhau i gyflwyno cynigion, tra mae’r DU yn parhau i fod yn aelod llawn o'r Undeb Ewropeaidd.

Meddai’r Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd: "Mae sicrhau grantiau gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, sy'n annog ymchwil o safon uchel yn Ewrop, yn broses gystadleuol iawn felly rwyf wrth fy modd y bydd ein gwaith pwysig yn elwa o'r arian hwn.

"Bydd y grantiau yn ein galluogi i gynnal ymchwil ystyrlon i wella ein gwybodaeth am y meddwl dynol ac am fath o ddaeargryn na wyddom fawr ddim amdano."

Meddai’r Athro Nora de Leeuw, Dirprwy Is-Ganghellor, Rhyngwladol ac Ewrop: "Mae'n newyddion da iawn ein bod yn dal i gael mynediad at gyllid gwerthfawr gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer ein gwaith ymchwil.

"Mae ymchwil Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad o ran ceisio mynd i'r afael â heriau byd-eang mawr a rhaid inni barhau i wneud yn fawr o'r cyfleoedd cyllido sydd ar gael."

Arweinwyr ymchwil talentog

Bwriad ‘Grantiau Dechrau’ y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd yw annog arweinwyr ymchwil ifanc, talentog i ddod yn fwy annibynnol ac i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Sign of North American Plate

Y grantiau a dderbyniwyd gan Brifysgol Caerdydd yw:

  • Mecaneg ffenomena daeargrynfeydd araf: safbwynt integredig o gyfansoddiad, geometreg a rheologeg ffawtiau mawr (€1. 49m): Bydd Dr Åke Fagereng, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, yn archwilio mecaneg daeargrynfeydd 'araf' – daeargrynfeydd cynnil, tawel a all bara diwrnodau, misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd. Canfuwyd daeargrynfeydd araf yn ddiweddar ar hyd sawl prif ymyl dectonig, fel yn Japan, Seland Newydd ac arfordir gorllewinol Gogledd America ond maen nhw’n dal i fod yn dipyn o ddirgelwch. Bydd Dr Fagereng yn cyfuno arsylwadau daearegol â modelu rhifiadol i daflu goleuni ar y ffenomen hon.
  • Rhyddhau’r Meddwl: penderfynyddion niwrowybyddol penderfynu bwriadol (€1.49m): Bydd Dr Jiaxiang Zhang, o’r Ysgol Seicoleg, yn ymchwilio i sut gwnawn benderfyniadau syml, megis dewis rhwng taliadau arian parod neu gerdyn. Meddai Dr Zhang: "Gan ddefnyddio uwch ddulliau delweddu’r ymennydd , byddwn yn profi a yw'r gwahaniaethau o ran ein hymddygiad arferol yn cael eu pennu gan briodweddau cemegol a strwythurol yn ein hymennydd. Yn y tymor hir, bydd y prosiect hwn yn ein helpu i ddeall sut rhai clefydau yn mynd â’r gallu sylfaenol hwn yn ein bywydau, fel mewn cleifion sydd â dementia."

Yn ogystal, dangoswyd gallu'r Brifysgol i gynnal, a denu, grantiau Cyngor Ymchwil Ewropeaidd gan astudiaeth sy'n edrych ar gyd-esblygiad bywyd ac arsenig yn ein cefnforoedd.

Dechreuodd Dr Ernest CGI Fru yr ymchwil ym Mhrifysgol Stockholm yn Sweden, ond ers hynny mae wedi symud i Brifysgol Caerdydd, lle y bydd yn cwblhau'r gwaith.

Mae gan Brifysgol Caerdydd record brofedig yn sicrhau arian yr UE, yn bennaf o Horizon 2020; Cronfeydd Strwythurol yr UE, a gynlluniwyd i leihau'r gwahaniaethau rhwng cyfoeth gwledydd yr UE; ac Erasmus +, rhaglen addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chymorth yr UE.