Ewch i’r prif gynnwys

Byddwch yn rhan o Seremoni Raddio

13 Gorffennaf 2012

Graduation 2

Mae wythnos raddio 2012 ar fin dechrau a bydd 7000 o fyfyrwyr yn graddio mewn 13 o seremonïau yn ystod y pum diwrnod nesaf. Bydd 19,000 aelod o'u teuluoedd a'u ffrindiau'n cael eu croesawu i Gaerdydd i ymuno yn y dathliadau.

Mae'n wythnos brysur i bawb sy'n ran ohoni, ond mae'r achlysur yn un o uchafbwyntiau calendr y Brifysgol.

Eleni mae yna hyd yn oed fwy fyth o gyfleoedd i'n graddedigion, eu teuluoedd a'u ffrindiau a staff y Brifysgol fod yn ran ohoni , a rhannu eu profiad Graddio.

Gallwch:

· Rannu eich negeseuon trydar gan ddefnyddio'r hashtag #cu2012 ac ymuno yn y sgwrs ar ein Wal Twitter. Bydd y negeseuon trydar yn cael eu dangos ar bob sgrin yn Neuadd Dewi Sant ac o amgylch y campws.

· Rhannu eich ffotograffau â ni ar ein tudalen Facebook yn /cardiffunialumni

· Ymweld â'n bwth fideo yn y Brif Adeilad a Neuadd y Ddinas a gadael neges i'r graddedigion.

· Gadw llygad am ddraig Caerdydd a fydd ar grwydr drwy gydol yr wythnos yn cwrdd â graddedigion a'u teuluoedd a'u ffrindiau. Gallwch weld ei anturiaethau yn ystod y Diwrnod Agored a fu yn gynharach yn ystod y mis ar www.cardiff.ac.uk/thrive

Ar ddiwedd wythnos y Graddio, bydd casgliad o'r ffotograffau, negeseuon trydar, a negeseuon fideo gorau gan Ddosbarth 2012 yn cael eu casglu ynghyd i greu casgliad Storify ar http://storify.com/cardiffuni

Rhannu’r stori hon