Ewch i’r prif gynnwys

Trin problemau anadlu mewn plant cynamserol

1 Chwefror 2017

Nurse treating child

Mae arbenigwyr iechyd plant Prifysgol Caerdydd yn galw eto am deuluoedd yng Nghymru i gymryd rhan mewn astudiaeth flaenllaw arall i wella iechyd plant a aned yn gynnar.

Yn yr astudiaeth fwyaf o blant a aned cyn amser yn y byd, mae’r tîm o’r Ysgol Feddygaeth eisoes wedi casglu gwybodaeth o 7000 o blant i ymchwilio i ganlyniadau anadlu hirdymor mewn babanod o aned yn gynnar o’u cymharu â’r rhai a aned ar amser.

Gyda £1.36m o gyllid o’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), maent bellach yn bwriadu ategu’r ymchwil hon drwy ymweld â 1000 o blant yn eu cartref i ddeall yn well pam fod plant a aned yn gynnar yn datblygu problemau anadlu.  Caiff y rhai â phroblemau anadlu sylweddol wahoddiad i ymuno â threial triniaeth i nodi’r driniaeth orau ar gyfer problemau anadlu ymhlith plant a aned yn gynnar.

Dywedodd yr Athro Sailesh Kotecha, sy’n arwain yr ymchwil: “O’r ymateb rhagorol a gawsom gan dros 7000 o blant yng Nghymru, rydym wedi dysgu bod plant a aned cyn amser yn cael llawer mwy o symptomau anadlol na’r rhai a aned ar amser. Ond nid yw’n glir pam fod hyn yn digwydd na beth yw’r driniaeth orau ar ei gyfer..."

"Gyda’r astudiaeth newydd hon, bydd yn ceisio dysgu beth yw’r driniaeth orau i blant a aned yn gynnar sydd â symptomau ysgyfaint. I wneud hyn, rydym angen i’r teuluoedd a gymerodd ran yn flaenorol ein helpu unwaith eto.”

Yr Athro Sailesh Kotecha Clinical Professor, School of Medicine

Mae 10% o enedigaethau yn y byd yn rhai cynamserol, a chaiff dros 50,000 o fabanod eu geni'n gynnar yn y DU bob blwyddyn. Er bod nifer gynyddol o’r babanod hynny’n goroesi i blentyndod a thu hwnt, mae’r ddealltwriaeth am ganlyniadau genedigaeth gynnar yn gyfyngedig. At hynny, nid yw’n eglur a yw therapi cyffuriau a anadlir yn effeithiol ymhlith plant a aned yn gynnar sydd â phroblemau anadlu. Bydd yr ymchwil newydd yn bwrw rhywfaint o olau ar y rhesymau sylfaenol sy’n arwain at symptomau anadlol a bydd hefyd yn dysgu beth yw’r driniaeth orau i’r plant hyn.

Ychwanegodd yr Athro Kotecha: “Hoffem ddiolch yn fawr i’r holl deuluoedd sydd wedi cymryd rhan hyd yma a gobeithio y byddant yn cymryd rhan eto dros y misoedd nesaf. Gyda chymorth y teuluoedd, gallwn ddeall yn well pam fod plant a aned yn gynnar yn dioddef o broblemau anadlu gan helpu i ddatblygu therapïau cyffuriau wedi’u targedu a allai wella ansawdd eu bywyd.”

Bydd y tîm yn gwahodd teuluoedd sydd wedi cymryd rhan yn y treial yn flaenorol dros y flwyddyn nesaf, fel y gall nyrsys ymchwil ymweld â’r plant yn eu cartref. Caiff y rhai sydd â symptomau anadlol sylweddol wahoddiad i ymuno â threial triniaeth i werthuso’r driniaeth anadlydd orau y dylid ei defnyddio gyda phlant a aned yn gynnar sydd â chlefyd anadlol.

Os hoffai teuluoedd gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’i tîm ymchwil ar 029 20 74 4187 neu e-bostiwch rhino@caerdydd.ac.uk neu ewch i http://rhino-health.org.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.