Ewch i’r prif gynnwys

Teithio’n gallach

30 Hydref 2012

Travel smarter

Mae fersiwn diweddaraf y cynllun teithio, a gaiff ei ail-lansio yn ystod Wythnos Cynaliadwyedd 2012, yn amlygu'r dulliau gwyrddaf a glanaf o fynd a dod i'r Brifysgol.

Mae'r cynllun hwn ar gyfer y Brifysgol gyfan ac mae'n rhoi awgrymiadau i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr am deithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy. Mae hefyd yn sôn am sut i helpu i leihau nifer y teithiau diangen yn ogystal ag effaith y Brifysgol ar yr amgylchedd.

Mae'r cynllun teithio'n codi ymwybyddiaeth o'r dewisiadau ar gyfer teithio a'u heffaith, yn ogystal â hyrwyddo dulliau teithio fel ffordd o gadw'n heini a defnyddio cludiant cyhoeddus. Mae hefyd yn cynnwys camau i annog pobl i deithio mewn ffyrdd nad ydynt yn cynnwys hedfan neu yrru ym maes busnes, dulliau amgen o weithio, ac adolygiad o gerbydau'r Brifysgol.

Dyma oedd barn, Karen Tanner, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Campws am y cynllun teithio: "Mae'r cynllun yn tynnu sylw at ffyrdd amgen ar wahân i deithio mewn car ar eich pen eich hun megis beicio, cerdded, rhannu ceir a chludiant cyhoeddus. Gyda lwc, bydd yn helpu staff, myfyrwyr a'r rhai sy'n ymweld â Chaerdydd i fabwysiadu arferion teithio mwy cynaliadwy."

Bydd rhai o staff y Gwasanaethau Campws yn Ffair Elusennau'r Wythnos Cynaliadwyedd yn Oriel VJ yn y Prif Adeilad ddydd Iau, 1 Tachwedd i roi mwy o fanylion am y cynllun ac yn rhoi pedometrau am ddim. Cewch weld y cynllun ar-lein yma.

Rhannu’r stori hon