Ewch i’r prif gynnwys

Niferoedd uchaf erioed yn Camu i Fyny i’r Brifysgol

30 Hydref 2012

Record numbers Step-Up to university

Llwyddodd mwy o fyfyrwyr nag erioed i gael lle mewn sefydliad addysg uwch o ganlyniad i raglen Camu i Fyny i'r Brifysgol. Dyma raglen lwyddiannus y Brifysgol sy'n ceisio ehangu mynediad.

Mae'r rhaglen yn creu cysylltiad tair blynedd gyda disgyblion mewn ysgolion lle nad oes nifer sylweddol wedi mynd i'r Brifysgol yn draddodiadol. Mae digwyddiadau, gweithdai ac ysgolion haf yn ceisio gwella dyhead a chyrhaeddiad disgyblion uwchradd o ardaloedd difreintiedig a'u cynorthwyo i barhau â'u hastudiaethau ôl-16 a mynd ymlaen i addysg uwch.

Ym mis Medi eleni, dechreuodd 250 o ddisgyblion gyrsiau mewn prifysgolion ledled y wlad. Mae hyn 60% yn uwch na'r un adeg yn 2011 ac mae 98 ohonynt yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd - 40 yn fwy o fyfyrwyr o gymharu â 2011.

Ganwyd Jade Cox ym Mhont-y-pŵl ac aeth i Ysgol Abersychan. Dechreuodd radd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith, Caerdydd ym mis Medi ac mae o'r farn bod y rhaglen wedi ei helpu i wneud defnydd llawn o'i gallu. Meddai: "Heb os nac oni bai, roedd y Rhaglen Camu i Fyny o gymorth i mi, yn enwedig gan nad oedd fy rhieni wedi mynd i brifysgol. Bues i yn Niwrnod Ysbrydoliaeth y Brifysgol, Ysgol Haf y Gyfraith, digwyddiad gan Gyngor y Bar a chefais nifer o gylchlythyron defnyddiol drwy e-bost. Rhoddodd yr holl ddigwyddiadau syniad i mi ynghylch sut beth fyddai bywyd yn y brifysgol ac, yn sgil yr hyder a gefais yng ngweithgareddau'r Ysgol Haf yn benodol, roeddwn yn gwybod y gallwn wneud y gwaith pe taswn yn dod yma i astudio."

Mae'r rhaglen tair blynedd yn cynnig cyfleoedd i ddysgu am addysg uwch, yn enwedig ym meysydd proffesiynol fel meddygaeth, iechyd, y gyfraith, pensaernïaeth, fferylliaeth, peirianneg, deintyddiaeth a chynllunio.

Mae Umulkhayr Mohamed o Adamsdown ac mae'n fyfyrwraig blwyddyn gyntaf yn astudio Fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Hi hefyd yw'r cyntaf o'i theulu i fynd i'r brifysgol. Dywedodd fod y rhaglen Camu i Fyny wedi ei helpu i gredu ynddi ei hun: "Cymryd rhan yn nigwyddiad Diwrnod Ysbrydoliaeth y Brifysgol pan oeddwn ym Mlwyddyn 11 oedd fy mhrofiad cyntaf gyda Chamu i Fyny. Doeddwn erioed wedi bod i brifysgol o'r blaen, felly roedd yn gyflwyniad da. Gan fy mod yn gwybod mai cael gyrfa broffesiynol oedd fy nod, fe wnes i hefyd fynd i'r Ysgol Haf ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol lle cefais y cyfle i gwrdd â myfyrwyr oedd eisoes yn astudio Fferylliaeth a chael ateb i lawer o fy nghwestiynau yn ogystal â chael gwybod beth allwn ei ddisgwyl fel myfyriwr. Ar y dechrau, doeddwn i ddim yn siŵr a oeddwn yn ddigon da i astudio Fferyllaeth yng Nghaerdydd, ond llwyddodd y rhaglen Camu i Fyny wneud i mi sylweddoli fod gen i'r bendant y gallu i gael lle - fe wnaeth fy helpu i gredu ynof fy hun."

Meddai Vicki Roylance, cydlynydd y rhaglen Camu i Fyny: "Rydyn ni mor falch fod nifer cynyddol o fyfyrwyr o'r rhaglen Camu i Fyny'n cael lle mewn prifysgolion eleni. Bydd yn brofiad a fydd yn trawsnewid eu bywydau. Wrth i ni ehangu'r rhaglen er mwyn cyrraedd mwy o ysgolion lle nad oes nifer sylweddol wedi mynd i'r Brifysgol yn draddodiadol, caiff nifer cynyddol o fyfyrwyr ledled Cymru'r cyfle i gael profiad o fywyd yn y brifysgol a'r cyfan sy'n gysylltiedig â hynny. Gyda lwc, bydd y niferoedd yn parhau i godi dros y blynyddoedd nesaf."

Bydd tua hanner y rhai a gymerodd ran yn y rhaglen Camu i Fyny sydd wedi mynd i Brifysgol Caerdydd hefyd yn elwa ar fwrsariaeth o £1,000 gan y rhaglen. Eleni yw'r tro cyntaf i'r bwrsariaethau hyn gael eu cyflwyno ac maent yn rhan o becyn cymorth estynedig y Brifysgol i fyfyrwyr.

Cefnogir rhaglen Camu i Fyny i'r Brifysgol gan Gampws Cyntaf – Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-ddwyrain Cymru.

Rhannu’r stori hon