Ewch i’r prif gynnwys

Cyflymu ymchwil i Glefyd Huntington

6 Gorffennaf 2012

Huntington's research

Cafodd celloedd ymennydd dynol sy'n dangos nodweddion Clefyd Huntington eu datblygu, gan agor llwybrau ymchwil newydd ar gyfer trin yr anhwylder angheuol.

Mae consortiwm rhyngwladol, yn cynnwys gwyddonwyr o'r Ysgol Biowyddorau ac wedi creu celloedd ymennydd dynol sy'n datblygu nodweddion y clefyd yn y labordy. Bydd y celloedd a'r dechnoleg newydd yn cyflymu ymchwil i ddeall y clefyd ac yn cyflymu rhaglenni darganfod cyffuriau i drin yr anhwylder genetig terfynol hwn.

Mae Clefyd Huntington yn anhwylder niwro-ddirywiol ymosodol sy'n achosi diffyg cydsymud, problemau seiciatrig, dementia a marwolaeth. Mae achos genetig y clefyd yn hysbys i wyddonwyr ers dros ugain mlynedd, ond amharwyd ar ymchwil gan ddiffyg celloedd ymennydd dynol i astudio'r clefyd a sgrinio ar gyfer cyffuriau effeithiol.

Mae'r datblygiad allweddol diweddaraf yn golygu cymryd celloedd croen cleifion sy'n dioddef o Glefyd Huntington. Cafodd y celloedd hyn eu troi'n fôn-gelloedd gan y tîm o wyddonwyr, ac yna'u troi'n gelloedd ymennydd yn dioddef o'r anhwylder. Mae'r celloedd ymennydd yn dangos nodweddion y clefyd a byddant yn caniatáu i'r consortiwm ymchwilio i'r hyn sy'n peri i'r celloedd ymennydd farw.

Dywedodd Dr Nicholas Allen, un o'r ymchwilwyr arweiniol yn yr Ysgol Biowyddorau: "Mae'r datblygiad allweddol hwn yn ein caniatáu i greu celloedd ymennydd â llawer o nodweddion y clefyd, ymhen ychydig wythnosau'n unig. Mae hyn yn golygu y gallwn astudio ffisioleg normal y celloedd ymennydd hyn yn ogystal â'r prosesau patholegol sy'n arwain at eu marwolaeth."

Dywedodd yr ymchwiliwr arweiniol arall yng Nghaerdydd, yr Athro Paul Kemp: "Fel arfer bydd Clefyd Huntington yn cymryd blynyddoedd i ymddangos mewn ymennydd dynol. Nawr mae gennym fodel cyflym o'r clefyd y gallwn ei atgynhyrchu, ac mae hyn yn cynnig gobaith newydd o ddarganfod therapïau newydd."

Dywedodd cydawdur y papur, yr Athro Clive Svendsen, gwyddonydd o'r DG sydd ar hyn o bryd yn gyfarwyddwr Sefydliad Meddygaeth Atgynhyrchiol Cedars-Sinai yn UDA: "Bydd y Clefyd Huntington hwn 'mewn dysgl' yn golygu y gallwn am y tro cyntaf brofi therapïau ar niwronau Clefyd Huntington dynol. Yn ogystal â chynyddu ein gwybodaeth am yr anhwylder hwn a chynnig llwybr newydd ar gyfer canfod triniaethau, mae'r astudiaeth hon yn nodedig oherwydd y rhyngweithio helaeth rhwng grŵp mawr o wyddonwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu'r model hwn. Mae'n ffordd newydd o wneud gwyddoniaeth arloesol."

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ysgol Biowyddorau, yr Athro Ole Petersen: "Mae hwn yn ddatblygiad arbennig o bwysig ac rwy'n falch dros ben o weld cydweithwyr o'r Ysgol Biowyddorau yn chwarae eu rhan yn y tîm rhyngwladol nodedig hwn. Rwy'n edrych ymlaen at weld camau'r dyfodol, pan fydd y dechneg newydd hon yn cael ei rhoi ar waith i fodelu'r clefyd a phrofi triniaethau posibl."

Mae'r papur, a gyhoeddir ar y wefan Cell Stem Cell, yn ganlyniad cydweithredu rhwng gwyddonwyr yng Nghaerdydd; Canolfan Feddygol Cedars-Sinai yn Los Angeles; Ysgol Feddygaeth Prifysgol John Hopkins yn Baltimore; Prifysgol California yn Irvine; Ysgol Feddygaeth Prifysgol Wisconsin; Ysbyty Cyffredinol Massachusetts; Ysgol Feddygaeth Harvard; Prifysgol California yn San Francisco, a Phrifysgol Milan. Cafodd ei ariannu ar y cyd gan y Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol a Menter Gwella Clefyd Huntington (CHDI).

Rhannu’r stori hon