Ewch i’r prif gynnwys

Cymryd rhan yn Rhaglen Pobl Caerdydd

6 Tachwedd 2012

Cardiff People Programme

Ar ôl lansio e-Recriwtio mae Tîm Rhaglen Pobl Caerdydd wedi bod yn canolbwyntio ar gam nesaf y cynllun prosiect - gweithredu systemau Adnoddau Dynol a Chyflogres ar-lein a fydd yn newid y ffordd rydym yn gweithio yma yng Nghaerdydd. Mae Caroline Mackenzie, Rheolwr y Rhaglen, yn dweud rhagor wrthym am y camau nesaf.

"Dros y chwe mis nesaf bydd Tîm y Rhaglen yn hoelio eu sylw ar brofi'r systemau sy'n cael eu creu'n drylwyr, hyfforddi'r staff canolog y bydd angen iddyn nhw fod â gwybodaeth fanwl o'r systemau newydd gan arwain at gyfnod o Brofi Derbyn Defnyddwyr ym mis Tachwedd. Dyma'r tro cyntaf i'r system gael ei phrofi ar raddfa fawr gan staff ledled y Brifysgol.

"Mae gan bob Ysgol a Chyfarwyddiaeth gynrychiolwyr sy'n rhan o Grŵp Defnyddwyr Pobl Caerdydd. Mae'r cynrychiolwyr hyn yn gyswllt uniongyrchol rhwng eu maes gweithio uniongyrchol â thîm y rhaglen. Eu rôl yw bod yn ddolen adborth ddwy ffordd rhwng yr hyn sydd ei angen ar y Brifysgol a'r hyn y gall y rhaglen ei gyflwyno. Pe bai diddordeb gennych mewn ymwneud â'r profi cysylltwch â'ch cynrychiolydd grŵp Pobl Caerdydd lleol am ragor o wybodaeth. Cewch y cyswllt i'ch cynrychiolydd lleol yma.

Er mwyn sicrhau bod y systemau rydym yn eu datblygu'n cynnig y gefnogaeth orau i waith y Brifysgol, mae Grwpiau Diddordeb Arbennig ychwanegol wedi cael eu creu. Mae Tîm Rhaglen Pobl Caerdydd yn cydnabod bod gan rannau gwahanol o'r corff anghenion gwahanol o ran y newid trefniadaeth arwyddocaol hwn ac rydym eisiau sicrhau bod gan staff gyfle i godi a thrafod materion penodol. Y grwpiau sydd wedi cael eu creu yw:

  • Y Gymraeg
  • Mynediad i Ddefnyddwyr
  • Cydymffurfio
  • Academaidd

Mae'r tri grŵp cyntaf eisoes yn llawn ond rydym yn dal i annog staff i ymwneud â'r Grŵp Diddordeb Arbennig Academaidd. Yr ymrwymiad amser i hwn fydd cyfarfod misol a gohebiaeth drwy e-bost rhwng cyfarfodydd os a phan fydd angen. Bydd hyn yn sicrhau bod y dewis academaidd yn cael ei ystyried wrth greu prosesau a systemau. Os oes diddordeb gennych mewn bod yn rhan o'r grŵp hwn cysylltwch â cardiffpeople@cf.ac.uk neu ffoniwch 88301."

Am ragor o wybodaeth am y Rhaglen yn ei chyfanrwydd ewch i dudalennau gwe Pobl Caerdydd.

Rhannu’r stori hon