Ewch i’r prif gynnwys

Arbed prosiect sy’n methu

5 Gorffennaf 2012

Saving a failing project
Mike Brooks, Director for Executive Education, Cardiff Business School

Mae arbenigwyr busnes wedi dangos sut mae modd arbed prosiect sy'n methu, mewn digwyddiad diweddar a drefnwyd gan y Tîm Datblygiad Proffesiynol yn y Ganolfan Dysgu Gydol Oes.

Bu Martyn Bishop, Cyfarwyddwr Prosiectau yn WSP, un o'r ymgyngoriaethau dylunio, peirianneg a rheolaeth cyflymaf eu twf yn y byd, yn defnyddio ei brofiad ymarferol i ddangos y camau y gall cwmni eu cymryd i adfer prosiect sy'n ymddangos ei fod yn methu. Esboniodd i aelodau'r cwrs, pob un yn gyn-fyfyriwr y cwrs byr mewn rheoli prosiectau yng Nghaerdydd, sut gallant wneud yn siŵr eu bod yn bodloni disgwyliadau cleientiaid a mwy.

Dywedodd Mr Bishop: "Mae Adfer Prosiect yn sgil mor bwysig wrth reoli prosiectau. Roedd hyn yn gyfle gwych i drosglwyddo rhai o'm profiadau i helpu rheolwyr prosiect eraill ddelio â'u hanawsterau gyda phrosiectau. Cefais argraff dda o'r rhai a oedd yn bresennol ac roeddwn yn fodlon iawn â'r rhyngweithio ar y diwrnod. Mae gennyf argraff dda hefyd o'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig ym Mhrifysgol Caerdydd."

Bu Mike Brooks, sydd newydd ei benodi'n Gyfarwyddwr Addysg Gweithredol yn Ysgol Fusnes Caerdydd, yn arwain trafodaethau gweithdy lle bu'r cyfranogwyr yn ystyried y mathau cyffredin o fethiannau prosiect a'r ffyrdd y gellid eu hosgoi.

Dywedodd Mr Brooks:"Mae datblygiad proffesiynol parhaus, trwy raglenni byr cyfnodol fel y rhai a gynigir gan y Ganolfan Dysgu Gydol Oes, ynghyd â phroses cyn-fyfyrwyr, yn rhan hanfodol o ddatblygiad parhaus unrhyw weithiwr proffesiynol. Mae gwir ddysg yn deillio o brofiad a myfyrio. Mae digwyddiadau fel hyn yn gwneud yn siŵr ein bod yn rhannu pryderon cyffredin â'n gilydd a sut mae delio â nhw."

Dywedodd un o'r rhai a oedd yn bresennol, Daniel Thorley, Cyfarwyddwr Marchnata Strategol: "Roedd y digwyddiad yn rhagorol. Rhoddodd y siaradwyr help gwirioneddol i'r gynulleidfa gysylltu â'r pwnc a gwnaeth y sesiynau gweithdy yn siŵr fod yna ryngweithio. Rwyf wedi mynychu digwyddiadau Rhwydwaith Menter Prifysgol Caerdydd o'r blaen ac rwy'n cael argraff dda o'r digwyddiadau a gynhelir yn y Brifysgol."

Mae'r sawl sy'n mynychu cwrs byr mewn Rheoli Prosiectau ym Mhrifysgol Caerdydd yn dod yn gyn-fyfyriwr ac yn cael gwahoddiad i ddigwyddiadau rheolaidd eraill fel hwn. I gael gwybod mwy am Gyn-fyfyrwyr Rheoli Prosiectau a'r cyrsiau byr a gynigir gan y Brifysgol, byddwch cystal â chysylltu â train@cardiff.ac.uk

Rhannu’r stori hon